YouVersion Logo
Search Icon

Malachi 1

1
1 Malachi yn achwyn rhag angharedigrwydd Israel, 6 a’u hanffyddiaeth, 12 a’u halogrwydd.
1Baich gair yr Arglwydd at Israel trwy law Malachi. 2Hoffais chwi, medd yr Arglwydd: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr hoffaist ni? Onid brawd oedd Esau i Jacob? medd yr Arglwydd: eto #Rhuf 9:13Jacob a hoffais, 3Ac #Jer 49:18; Esec 35:7, 9; Obad 10, &cEsau a gaseais, ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffeithwch, a’i etifeddiaeth i ddreigiau yr anialwch. 4Lle y dywed Edom, Tlodwyd ni, eto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfaneddleoedd; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Hwy a adeiladant, ond minnau a fwriaf i lawr; a galwant hwynt yn Ardal drygioni, a’r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd. 5Eich llygaid hefyd a welant, a chwithau a ddywedwch, Mawrygir yr Arglwydd oddi ar derfyn Israel.
6Mab a anrhydedda ei dad, a gweinidog ei feistr: ac #Luc 6:46os ydwyf fi dad, pa le y mae fy anrhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn? medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi yr offeiriaid, y rhai ydych yn dirmygu fy enw: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dirmygasom dy enw di? 7#1:7 Neu, Dwyn.Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig; a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr halogasom di? Am i chwi ddywedyd, Dirmygus yw bwrdd yr Arglwydd. 8Ac #Lef 22:22; Deut 15:21; ad. 14os offrymu yr ydych y dall #1:8 Heb. i’w aberthu.yn aberth, onid drwg hynny? ac os offrymwch y cloff a’r clwyfus, onid drwg hynny? cynnig ef yr awron i’th dywysog, a fydd efe bodlon i ti? neu a dderbyn efe dy wyneb? medd Arglwydd y lluoedd. 9Ac yn awr #1:9 Heb. ymbiliwch ag wyneb Duw.gweddïwch, atolwg, gerbron Duw, fel y trugarhao wrthym: o’ch #1:9 gwaith.llaw chwi y bu hyn: a dderbyn efe wyneb un ohonoch? medd Arglwydd y lluoedd. 10A phwy hefyd ohonoch a gaeai y dorau, neu a oleuai fy allor yn rhad? Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch chwi, medd Arglwydd y lluoedd, ac ni dderbyniaf #Esa 1:11; Jer 6:20; Amos 5:21offrwm o’ch llaw. 11Canys #Salm 113:3; Esa 59:19o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawr fydd fy enw ymysg y Cenhedloedd: ac #1 Tim 2:8ym mhob lle arogl‐darth a offrymir i’m henw, ac offrwm pur: canys mawr fydd fy enw ymhlith y Cenhedloedd, medd Arglwydd y lluoedd.
12Ond chwi a’i halogasoch ef, pan ddywedasoch, Bwrdd yr Arglwydd sydd halogedig; a’i ffrwyth, sef ei fwyd, sydd ddirmygus. 13Chwi hefyd a ddywedasoch, Wele, pa flinder yw! #1:13 Neu, lle y gallech ei chwythu ymaith.a ffroenasoch arno, medd Arglwydd y lluoedd; a dygasoch yr hyn a ysglyfaethwyd, a’r cloff, a’r clwyfus; fel hyn y dygasoch offrwm: a fyddaf fi fodlon i hynny o’ch llaw chwi? medd yr Arglwydd. 14Ond melltigedig #ad. 8 yw y twyllodrus, yr hwn y mae yn ei ddiadell wryw, ac a adduna ac a abertha un llygredig i’r Arglwydd; canys #Salm 47:2Brenin mawr ydwyf fi, medd Arglwydd y lluoedd, a’m henw sydd ofnadwy ymhlith y cenhedloedd.

Currently Selected:

Malachi 1: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in