YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 42

42
1 Jacob yn anfon ei ddeg mab i’r Aifft i brynu ŷd. 6 Joseff yn eu carcharu hwy fel ysbïwyr: 18 ac yn eu rhyddhau hwy, dan amod iddynt ddwyn Benjamin. 21 Eu cydwybod yn eu cyhuddo hwy o achos Joseff. 24 Cadw Simeon yn wystl. 25 Hwynt yn dychwelyd ag ŷd, a’u harian yn eu sachau: 29 ac yn traethu y newyddion i Jacob. 36 Jacob yn gwrthod danfon Benjamin.
1Pan welodd Jacob fod ŷd yn yr Aifft, dywedodd #Act 7:12Jacob wrth ei feibion, Paham yr edrychwch ar eich gilydd? 2Dywedodd hefyd, Wele, clywais fod ŷd yn yr Aifft: ewch i waered yno, a phrynwch i ni oddi yno; fel y bôm #Pen 43:8; Salm 118:17; Esa 38:1fyw, ac na byddom feirw.
3A deg brawd Joseff a aethant i waered, i brynu ŷd, i’r Aifft. 4Ond ni ollyngai Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda’i frodyr: oblegid efe a ddywedodd, Rhag digwydd niwed iddo ef. 5A meibion Israel a ddaethant i brynu ymhlith y rhai oedd yn dyfod; oblegid yr ydoedd y newyn yng ngwlad Canaan. 6A Joseff oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseff a ddaethant, ac #Pen 37:7a ymgrymasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau. 7A Joseff a ganfu ei frodyr, ac a’u hadnabu hwynt, ac a ymddieithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt #42:7 Heb. galed.yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a atebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth. 8A Joseff oedd yn adnabod ei frodyr; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef. 9A Joseff #Pen 37:5a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe amdanynt hwy; ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch. 10Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Nage, fy arglwydd; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth. 11Nyni oll ydym feibion un gŵr: gwŷr cywir ydym ni; nid yw dy weision di ysbïwyr. 12Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, Nage; ond i edrych noethder y wlad y daethoch. 13Hwythau a ddywedasant, Dy weision di oedd ddeuddeg brawd, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan: ac wele, y mae yr ieuangaf heddiw gyda’n tad ni, a’r llall #Galar 5:7; Edrych Pen 44:20nid yw fyw. 14A Joseff a ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn a adroddais, wrthych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi. 15Wrth hyn y’ch profir: #Edrych 1 Sam 1:26; 17:55Myn einioes Pharo, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o’ch brawd ieuangaf yma. 16Hebryngwch un ohonoch i gyrchu eich brawd, a #42:16 chadwer chwithau yng ngharchar.rhwymer chwithau; fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: oblegid onid e, myn einioes Pharo, ysbïwyr yn ddiau ydych chwi. 17As efe a’u #42:17 Heb. casglodd.rhoddodd hwynt i gyd yng ngharchar dridiau. 18Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseff wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: #Neh 5:15ofni Duw yr wyf fi. 19Os gwŷr cywir ydych chwi, rhwymer un o’ch brodyr chwi yn eich carchardy; ac ewch chwithau, dygwch ŷd rhag newyn i’ch tylwyth. 20A #Pen 43:5; 44:23dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi: felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw. Hwythau a wnaethant felly.
21Ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Diau bechu ohonom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni. 22A Reuben a’u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, #Pen 37:21Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod; ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynnir ei waed ef. 23Ac nis gwyddynt hwy fod Joseff yn eu deall; am #42:23 ei fod yn siarad wrthynt drwy gyfieithydd.fod cyfieithydd rhyngddynt. 24Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd; ac a ddaeth eilchwyl atynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymerth o’u mysg hwynt Simeon, ac a’i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.
25Joseff hefyd a orchmynnodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pob un ohonynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i’w fwyta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy. 26Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynnod, ac a aethant oddi yno. 27Ac #Edrych Pen 43:21un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i’w asyn yn y llety; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt yng ngenau ei ffetan ef. 28Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian; ac wele hwynt hefyd yn fy ffetan: yna y digalonasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth Duw i ni hyn?
29A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan; ac a fynegasant iddo ef eu holl brofiadau, gan ddywedyd, 30Dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad yn #42:30 Heb. galed.arw wrthym ni, ac a’n cymerth ni fel ysbïwyr y wlad. 31Ninnau a ddywedasom wrtho ef, Gwŷr cywir ydym ni; nid ysbïwyr ydym. 32Deuddeg o frodyr oeddem ni, meibion ein tad ni: un nid yw fyw, ac y mae yr ieuangaf heddiw gyda’n tad ni yng ngwlad Canaan. 33A dywedodd y gŵr oedd arglwydd y wlad wrthym ni, Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi; gadewch gyda myfi un o’ch brodyr, a chymerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd, ac ewch ymaith. 34A dygwch eich brawd ieuangaf ataf fi, fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi, ond eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnata yn y wlad.
35Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt‐hwy a’u tad, ofni a wnaethant. 36A Jacob, eu tad hwynt, a ddywedodd wrthynt hwy, Diblantasoch fi: Joseff nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw, a Benjamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll. 37A dywedodd Reuben wrth ei dad, gan ddywedyd, Lladd fy nau fab i, oni ddygaf ef drachefn atat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi a’i dygaf ef atat ti eilwaith. 38Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyda chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: #Pen 44:29pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd‐ddi, yna chwi #Pen 37:35; 44:31a barech i’m penwynni ddisgyn i’r bedd mewn tristwch.

Currently Selected:

Genesis 42: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in