YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 43

43
1 Jacob yn flin ganddo ollwng Benjamin. 15 Joseff yn croesawu ei frodyr. 31 Yn gwneuthur iddynt wledd.
1A’r newyn oedd drwm yn y wlad. 2A bu, wedi iddynt fwyta yr ŷd a ddygasent o’r Aifft, ddywedyd o’u tad wrthynt hwy, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth. 3A Jwda a atebodd, gan ddywedyd, Gan rybuddio y rhybuddiodd y gŵr nyni, gan ddywedyd, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich #Pen 42:20; 44:23brawd gyda chwi. 4Os anfoni ein brawd gyda ni, ni a awn i waered, ac a brynwn i ti luniaeth. 5Ond os ti nid anfoni, nid awn i waered; oblegid y gŵr a ddywedodd wrthym ni, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi. 6Ac Israel a ddywedodd, Paham y drygasoch fi, gan fynegi i’r gŵr fod i chwi eto frawd? 7Hwythau a ddywedasant, Gan ymofyn yr ymofynnodd y gŵr amdanom ni, ac am ein cenedl, gan ddywedyd, Ai byw eich tad chwi eto? Oes frawd arall i chwi? Ninnau a ddywedasom wrtho ef ar ôl y geiriau hynny: a allem ni gan wybod wybod y dywedai efe, Dygwch eich brawd i waered? 8Jwda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, Gollwng y bachgen gyda mi, ninnau a gyfodwn ac a awn ymaith; fel y byddom byw, ac na byddom feirw, nyni, a thithau, a’n plant hefyd. 9Myfi a fechnïaf amdano ef; o’m llaw i y gofynni ef: #Pen 44:32onis dygaf ef atat ti, a’i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i’th erbyn byth. 10Canys, pe na buasem hwyrfrydig, daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach. 11Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt, Os rhaid yn awr felly, gwnewch hyn; cymerwch o ddewis ffrwythau’r wlad yn eich llestri, a dygwch yn anrheg i’r gŵr, ychydig falm, ac ychydig fêl, llysiau, a myrr, cnau, ac almonau. 12Cymerwch hefyd ddau cymaint o arian gyda chwi; a dygwch eilwaith gyda chwi yr arian a roddwyd drachefn yng ngenau eich sachau: ond odid amryfusedd fu hynny. 13Hefyd cymerwch eich brawd, a chyfodwch, ewch eilwaith at y gŵr. 14A Duw Hollalluog a roddo i chwi drugaredd gerbron y gŵr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Benjamin: #Edrych Est 4:16minnau fel y’m diblantwyd, a ddiblentir.
15A’r gwŷr a gymerasant yr anrheg honno, a chymerasant arian yn ddwbl yn eu llaw, a Benjamin hefyd; a chyfodasant, ac a aethant i waered i’r Aifft, a safasant gerbron Joseff. 16A Joseff a ganfu Benjamin gyda hwynt; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Dwg y gwŷr hyn i’r tŷ, a lladd laddfa, ac arlwya: oblegid y gwŷr a gânt #43:16 giniawa.fwyta gyda myfi ar hanner dydd. 17A’r gŵr a wnaeth fel y dywedodd Joseff: a’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff. 18A’r gwŷr a ofnasant, pan dducpwyd hwynt i dŷ Joseff; ac a ddywedasant, Oblegid yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf, y ducpwyd nyni i mewn; i #43:18 Heb. ymdreiglo.fwrw hyn arnom ni, ac i ruthro i ni, ac i’n cymryd ni yn gaethion, a’n hasynnod hefyd. 19A hwy a nesasant at y gŵr oedd olygwr ar dŷ Joseff, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ, 20Ac a ddywedasant, Fy arglwydd, #Pen 42:3gan ddisgyn y disgynasom yr amser cyntaf i brynu lluniaeth. 21A #Pen 42:27, 35bu, pan ddaethom i’r llety, ac agoryd ein sachau, yna wele arian pob un yng ngenau ei sach; ein harian ni, meddaf, yn ei bwys: ond ni a’i dygasom eilwaith yn ein llaw. 22Dygasom hefyd arian arall i waered yn ein llaw, i brynu lluniaeth: nis gwyddom pwy a osododd ein harian ni yn ein ffetanau. 23Yntau a ddywedodd, Heddwch i chwi; nac ofnwch: eich Duw chwi, a Duw eich tad, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; #43:23 mi gefais i eich arian.daeth eich arian chwi ataf fi. Ac efe a ddug Simeon allan atynt hwy. 24A’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff, ac a #Pen 18:4; 24:32roddes ddwfr, a hwy a olchasant eu traed; ac efe a roddes ebran i’w hasynnod hwynt. 25Hwythau a baratoesant eu hanrheg erbyn dyfod Joseff ar hanner dydd: oblegid clywsent mai yno y bwytaent fara.
26Pan ddaeth Joseff i’r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i’r tŷ, ac #Pen 37:7, 10a ymgrymasant iddo ef hyd lawr. 27Yntau a ofynnodd iddynt am eu #43:27 Heb. heddwch.hiechyd, ac a ddywedodd, #43:27 Heb. Oes heddwch i’r.Ai iach yr hen ŵr eich tad chwi, #Pen 42:11, 13yr hwn y soniasoch amdano? ai byw efe eto? 28Hwythau a ddywedasant, Iach yw dy was, ein tad ni; byw yw efe eto. Yna yr ymgrymasant, ac yr ymostyngasant. 29Yntau a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Benjamin, mab ei fam ei hun; ac a ddywedodd, Ai dyma eich brawd ieuangaf chwi, #Pen 42:13am yr hwn y dywedasoch wrthyf fi? Yna y dywedodd, Duw a roddo ras i ti, fy mab. 30A Joseff a frysiodd, (oblegid cynesasai ei ymysgaroedd ef tuag at ei frawd,) ac a geisiodd le i wylo; ac a aeth i mewn i’r ystafell, ac a wylodd yno. 31Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymataliodd, ac a ddywedodd, Gosodwch fara. 32Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun, ac i’r Eifftiaid y rhai oedd yn bwyta gydag ef wrthynt eu hunain: oblegid ni allai’r Eifftiaid fwyta bara gyda’r Hebreaid; oherwydd #Pen 46:34ffieidd‐dra oedd hynny gan yr Eifftiaid. 33Yna yr eisteddasant ger ei fron ef, y cyntaf‐anedig yn ôl ei gyntafenedigaeth, a’r ieuangaf yn ôl ei ieuenctid: a rhyfeddodd y gwŷr bob un wrth ei gilydd. 34Yntau a gymerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy: a mwy ydoedd saig Benjamin o bum rhan na seigiau yr un ohonynt oll. Felly yr yfasant ac #43:34 yr ymlawenhasant.#Edrych Hag 1:6; Ioan 2:10y gwleddasant gydag ef.

Currently Selected:

Genesis 43: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in