YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 12

12
1 Newid dechreuad y flwyddyn. 3 Ordeinio y Pasg. 11 Defod y Pasg. 15 Bara croyw. 29 Marwolaeth y cyntaf‐anedig. 31 Gyrru yr Israeliaid allan o’r tir. 37 Hwythau yn dyfod i Succoth. 43 Ordinhad y Pasg.
1Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aifft, gan ddywedyd, 2Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn.
3Lleferwch wrth holl gynulleidfa Israel, gan ddywedyd, Ar y degfed dydd o’r mis hwn cymerant iddynt bob un oen, yn ôl teulu eu tadau, sef #12:3 Neu, myn.oen dros bob teulu. 4Ond os y teulu fydd ry fychan i’r oen, efe a’i gymydog nesaf i’w dŷ a’i cymer, wrth y rhifedi o ddynion; pob un yn ôl ei fwyta a gyfrifwch at yr oen. 5Bydded yr oen gennych #Lef 22:20, 21; Mal 1:8; Heb 9:14; 1 Pedr 1:19yn berffaith‐gwbl, yn wryw, ac yn llwdn blwydd: o’r defaid, neu o’r geifr, y cymerwch ef. 6A bydded yng nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn: a #Lef 23:5; Num 9:3; 28:16; Deut 16:1lladded holl dyrfa cynulleidfa Israel ef #12:6 Heb. rhwng y ddau hwyr, Pen 16:6yn y cyfnos. 7A chymerant o’r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gapan drws y tai y bwytânt ef ynddynt. 8A’r cig a fwytânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a #1 Cor 5:8bara croyw; gyda dail surion y bwytânt ef. 9Na fwytewch ohono yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyda’i draed a’i ymysgaroedd. 10#Pen 23:18; 34:25Ac na weddillwch ddim ohono hyd y bore: a’r hyn fydd yng ngweddill ohono erbyn y bore, llosgwch yn tân.
11Ac fel hyn y bwytewch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a’ch esgidiau am eich traed, a’ch ffyn yn eich dwylo: a bwytewch ef ar ffrwst; Pasg yr Arglwydd ydyw efe. 12Oherwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aifft y nos hon, ac a drawaf bob cyntaf‐anedig o fewn tir yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail; #Num 33:4a mi a wnaf farn yn erbyn holl #12:12 Neu, dywysogion.dduwiau yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd. 13A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr af heibio i chwi, ac ni bydd pla #12:13 Heb. yn ddinistr.dinistriol arnoch chwi, pan drawyf dir yr Aifft. 14A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a’i cedwch ef yn ŵyl i’r Arglwydd trwy eich cenedlaethau: cedwch ef yn ŵyl trwy ddeddf dragwyddol. 15#Pen 13:6; 23:15; 34:18, 25Saith niwrnod y bwytewch fara croyw; y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o’ch tai: oherwydd pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, #Gen 17:14yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel. 16Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gymanfa sanctaidd, a chymanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwyty pob #12:16 Heb. enaid.dyn, hynny yn unig a ellwch ei wneuthur. 17Cedwch hefyd ŵyl y bara croyw; oherwydd o fewn corff y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aifft: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenedlaethau, trwy ddeddf dragwyddol.
18 # Lef 23:5; Num 28:16 Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis yn yr hwyr, y bwytewch fara croyw, hyd yr unfed dydd ar hugain o’r mis yn yr hwyr. 19Na chaffer surdoes yn eich tai #Deut 16:3saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynulleidfa Israel, yn gystal y dieithr a’r priodor. 20Na fwytewch ddim lefeinllyd: bwytewch fara croyw yn eich holl drigfannau.
21A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Tynnwch a chymerwch i chwi #12:21 Neu, fyn.oen yn ôl eich teuluoedd, a lleddwch y Pasg. 22#Heb 11:28A chymerwch dusw o isop, a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg, a rhoddwch ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, o’r gwaed a fyddo yn y cawg; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore. 23Oherwydd yr Arglwydd a dramwya i daro’r Eifftiaid: a phan welo efe y gwaed ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, yna yr Arglwydd a â heibio i’r drws, ac #Esec 9:6; Dat 7:3; 9:4ni ad i’r dinistrydd ddyfod i mewn i’ch tai chwi i ddinistrio. 24A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i’th feibion yn dragywydd. 25A phan ddeloch i’r wlad a rydd yr Arglwydd i chwi, megis yr addawodd, yna cedwch y gwasanaeth hwn. 26#Jos 4:6A bydd, pan ddywedo eich meibion wrthych, Pa wasanaeth yw hwn gennych? 27Yna y dywedwch, Aberth Pasg yr Arglwydd ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aifft, pan drawodd efe yr Eifftiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna #Pen 4:31yr ymgrymodd y bobl, ac yr addolasant. 28A meibion Israel a aethant ymaith, ac a wnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant.
29Ac #Pen 11:4ar hanner nos y trawodd #Num 8:17; 33:4; Salm 78:51; 105:36; 135:8; 136:10yr Arglwydd bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, #Pen 4:23o gyntaf‐anedig Pharo yr hwn a eisteddai ar ei frenhinfainc, hyd gyntaf‐anedig y gaethes oedd yn y #12:29 Heb. tŷ y pydew.carchardy; a phob cyntaf‐anedig i anifail. 30A Pharo a gyfododd liw nos, efe a’i holl weision, a’r holl Eifftiaid; ac yr oedd gweiddi mawr yn yr Aifft: oblegid nid oedd dŷ a’r nad ydoedd un marw ynddo.
31Ac #Salm 105:38efe a alwodd ar Moses ac Aaron liw nos, ac a ddywedodd, Codwch, ewch allan o fysg fy mhobl, #Pen 10:9chwi a meibion Israel hefyd; ac ewch, a gwasanaethwch yr Arglwydd, fel y dywedasoch. 32#Pen 10:26Cymerwch eich defaid, a’ch gwartheg hefyd, fel y dywedasoch, ac ewch ymaith, a bendithiwch finnau. 33A’r Eifftiaid a fuant daerion ar y bobl, gan eu gyrru ar ffrwst allan o’r wlad; oblegid dywedasant, Dynion meirw ydym ni oll. 34A’r bobl a gymerodd eu toes cyn ei lefeinio, a’u #12:34 cafnau tylino.toes oedd wedi ei rwymo yn eu dillad ar eu hysgwyddau. 35A meibion Israel a wnaethant yn ôl gair Moses; ac #Pen 3:22; 11:2a fenthyciasant gan yr Eifftiaid dlysau arian, a #12:35 dodrefn.thlysau aur, a gwisgoedd. 36A’r Arglwydd a roddasai i’r bobl hawddgarwch yng ngolwg yr Eifftiaid, fel yr echwynasant iddynt: a #Gen 15:14; Pen 3:22; Salm 105:37hwy a ysbeiliasant yr Eifftiaid.
37A #Num 33:3, 5meibion Israel a aethant o #Gen 47:11Rameses i Succoth, ynghylch #Pen 38:26; Num 1:46; 11:21chwe chan mil o wŷr traed, heblaw plant. 38A phobl gymysg lawer a aethant i fyny hefyd gyda hwynt; defaid hefyd a gwartheg, sef da lawer iawn. 39A hwy a bobasant y toes a ddygasant allan o’r Aifft yn deisennau croyw; oherwydd yr oedd heb ei lefeinio: canys #Pen 6:1; 11:1gwthiasid hwynt o’r Aifft, ac ni allasant aros, ac ni pharatoesent iddynt eu hun luniaeth.
40A phreswyliad meibion Israel, tra y trigasant yn yr Aifft, oedd #Gen 15:13; Act 7:6; Gal 3:17ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd. 41Ac ymhen y deng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ie, o fewn corff y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr Arglwydd allan o wlad yr Aifft. 42#Edrych Deut 16:6Nos yw hon i’w chadw i’r Arglwydd, ar yr hon y dygwyd hwynt allan o wlad yr Aifft: #12:42 Heb. nos cadwraeth.nos yr Arglwydd yw hon, i holl feibion Israel i’w chadw trwy eu hoesoedd.
43Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron, Dyma ddeddf y Pasg: na fwytaed neb dieithr ohono. 44Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian, gwedi yr enwaedych ef, a fwyty ohono. 45Yr alltud, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwyta ohono. 46Mewn un tŷ y bwyteir ef: na ddwg ddim o’r cig allan o’r tŷ; ac #Num 9:12; Ioan 19:36na thorrwch asgwrn ohono. 47Holl gynulleidfa Israel a wnânt hynny. 48A #Num 9:14phan arhoso dieithr gyda thi, ac ewyllysio cadw Pasg i’r Arglwydd, enwaeder ei holl wrywiaid ef, ac yna nesaed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwytaed neb dienwaededig ohono. 49Yr un gyfraith fydd i’r priodor, ac i’r dieithr a arhoso yn eich mysg. 50Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant. 51Ac o fewn corff y dydd hwnnw y dug yr Arglwydd feibion Israel o wlad yr Aifft, #Pen 6:26yn ôl eu lluoedd.

Currently Selected:

Exodus 12: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in