YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 13

13
1 Cysegru y cyntaf‐anedig i Dduw. 3 Gorchymyn cadw coffadwriaeth o’r Pasg. 11 Neilltuo y cyntaf o’r anifeiliaid. 17 Yr Israeliaid wrth fyned allan o’r Aifft yn dwyn esgyrn Joseff gyda hwynt. 20 Yn dyfod i Etham. 21 Duw yn eu harwain mewn colofn o niwl a cholofn o dân.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2#Pen 22:29; 34:19|EXO 34:19; Lef 27:26; Num 3:13; 8:16, 17; 18:15; Luc 2:23Cysegra i mi bob cyntaf‐anedig, sef beth bynnag a agoro y groth ymysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi yw.
3A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o’r Aifft, o dŷ #13:3 Heb. y gweision.y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwytaer bara lefeinllyd. 4Heddiw yr ydych chwi yn myned allan, #Pen 23:15; Deut 16:1ar y mis Abib.
5A phan ddygo’r Arglwydd di i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid, yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl; #Pen 12:25, 26yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn. 6#Pen 12:15, 16Saith niwrnod y bwytei fara croyw; ac ar y seithfed dydd y bydd gŵyl i’r Arglwydd. 7Bara croyw a fwyteir saith niwrnod: ac na weler bara lefeinllyd gyda thi; ac na weler gennyt surdoes o fewn dy holl derfynau.
8A mynega i’th fab y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Oherwydd yr hyn a wnaeth yr Arglwydd i mi pan ddeuthum allan o’r Aifft, y gwneir hyn. 9A bydded i ti #Edrych ad. 16; Num 15:39; Deut 6:8; 11:18; Diar 1:9; Esa 49:16; Jer 22:24; Mat 23:5yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr Arglwydd yn dy enau: oherwydd â llaw gadarn y dug yr Arglwydd dydi allan o’r Aifft. 10Am hynny cadw y ddeddf hon, yn ei hamser nodedig, o flwyddyn i flwyddyn.
11A phan ddygo yr Arglwydd di i wlad y Canaaneaid, megis y tyngodd efe wrthyt, ac wrth dy dadau, a’i rhoddi i ti, 12Yna #Pen 22:29; 34:19|EXO 34:19; Lef 27:26; Num 8:17; Deut 15:19; Esec 44:30y neilltui i’r Arglwydd bob cyntaf‐anedig: a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti, y gwrywiaid eiddo yr Arglwydd fyddant. 13A #Num 18:15, 16phob cyntaf i asyn a bryni di #13:13 Gr. â myn.ag oen; ac oni phryni di ef, yna torfynygla ef: a phob dyn cyntaf‐anedig o’th feibion #Num 3:47; 18:16a bryni di hefyd.
14A phan ofynno dy fab #13:14 Heb. y fory.ar ôl hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aifft, o dŷ y caethiwed. 15A phan oedd anodd gan Pharo ein gollwng ni, y lladdodd yr Arglwydd bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf‐anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i’r Arglwydd bob gwryw a agoro y groth; ond pob cyntaf‐anedig o’m meibion a brynaf. 16A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhactalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aifft.
17A phan ollyngodd Pharo y bobl, nid arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd Duw, Rhag i’r bobl edifarhau pan welant ryfel, a #Deut 17:16dychwelyd i’r Aifft. 18Ond Duw #Pen 14:2a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac #13:18 Heb. yn bumoedd.yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aifft. 19A Moses a gymerodd esgyrn Joseff gydag ef: oherwydd efe a wnaethai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, #Gen 50:25; Jos 24:32; Act 7:16Duw a ymwêl â chwi yn ddiau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyda chwi.
20A #Num 33:6hwy a aethant o Succoth; ac a wersyllasant yn Etham, yng nghwr yr anialwch. 21A’r #Pen 40:38; Num 9:15; 10:34; 14:14; Deut 1:33; Neh 9:12, 19; Salm 78:14; 99:7; 105:39; 1 Cor 10:1Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i’w harwain ar y ffordd; a’r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt: fel y gallent fyned ddydd a nos. 22Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na’r golofn dân y nos, o flaen y bobl.

Currently Selected:

Exodus 13: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in