YouVersion Logo
Search Icon

Deuteronomium 27

27
1 Gorchymyn y bobl i ysgrifennu y gyfraith ar gerrig; 5 ac i wneuthur allor o gerrig cyfain. 11 Rhannu y llwythau ar fynydd Garisim ac Ebal. 14 Cyhoeddi y melltithion ar fynydd Ebal.
1Yna y gorchmynnodd Moses, gyda henuriaid Israel, i’r bobl, gan ddywedyd Cedwch yr holl orchmynion yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw. 2A bydded, yn y dydd #Jos 4:1yr elych dros yr Iorddonen i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, #Jos 8:32osod ohonot i ti gerrig mawrion, a chalcha hwynt â chalch. 3Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych drosodd, i fyned i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, sef tir yn llifeirio o laeth a mêl; megis ag y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthyt. 4A phan eloch dros yr Iorddonen, gosodwch y cerrig hyn, yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, ym mynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch. 5Ac adeilada yno allor i’r Arglwydd dy Dduw, sef allor gerrig: #Exod 20:25; Jos 8:31na chyfod arnynt arf haearn. 6A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr Arglwydd dy Dduw; ac offryma arni boethoffrymau i’r Arglwydd dy Dduw. 7Offryma hefyd hedd‐aberthau, a bwyta yno, a llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw. 8Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon, yn eglur iawn.
9A llefarodd Moses a’r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel, gan ddywedyd, Gwrando a chlyw, O Israel: Y dydd hwn y’th wnaethpwyd yn bobl i’r Arglwydd dy Dduw. 10Gwrando gan hynny ar lais yr Arglwydd dy Dduw, a gwna ei orchmynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.
11A gorchmynnodd Moses i’r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd, 12Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garisim, wedi eich myned dros yr Iorddonen: Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Joseff, a Benjamin. 13#Pen 11:29; Jos 8:33A’r rhai hyn a safant #27:13 Heb. yn felltith.i felltithio ar fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Sabulon, Dan, a Nafftali.
14 # Dan 9:11 A’r Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gŵr o Israel â llef uchel, 15#Exod 20:4, 23; 34:17; Lef 19:4; 26:1; Pen 4:16, 23; 5:8Melltigedig yw y gŵr a wnêl ddelw gerfiedig neu doddedig, sef ffieidd‐dra gan yr Arglwydd, gwaith dwylo crefftwr, ac a’i gosodo mewn lle dirgel. A’r holl bobl a atebant ac a ddywedant, #1 Cor 14:16; Edrych Jer 11:5Amen. 16#Exod 20:12; 21:17; Lef 19:3Melltigedig yw yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fam. A dyweded yr holl bobl, Amen. 17#Pen 19:14; Diar 22:28Melltigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog. A dyweded yr holl bobl, Amen. 18#Lef 19:14Melltigedig yw yr hwn a baro i’r dall gyfeiliorni allan o’r ffordd. A dyweded yr holl bobl, Amen. 19#Exod 22:21, 22; Pen 10:18Melltigedig yw yr hwn a ŵyro farn y dieithr, yr amddifad, a’r weddw. A dyweded yr holl bobl, Amen. 20#Lef 18:8; Pen 22:30Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda gwraig ei dad; oherwydd datguddiodd odre ei dad. A dyweded yr holl bobl, Amen. 21#Lef 18:23Melltigedig yw yr hwn a orweddo gydag un anifail. A dyweded yr holl bobl, Amen. 22#Lef 18:9Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam ef. A dyweded yr holl bobl, Amen. 23#Lef 18:17; 20:14Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i #27:23 mam yng nghyfraith.chwegr. A dyweded yr holl bobl, Amen. 24#Exod 20:13; 21:12, 14; Lef 24:17; Num 35:31; Pen 19:11Melltigedig yw yr hwn a drawo ei gymydog yn ddirgel. A dyweded yr holl bobl, Amen. 25#Exod 23:8; Pen 10:17; 16:19 Esec 22:12Melltigedig yw yr hwn a gymero wobr, er dieneidio gwaed gwirion. A dyweded yr holl bobl, Amen. 26#Jer 11:3; Gal 3:10Melltigedig yw yr hwn ni pharhao yng ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen.

Currently Selected:

Deuteronomium 27: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in