Deuteronomium 28
28
1 Bendithion am ufudd‐dod. 15 Melltithion am anufudd‐dod.
1Ac #Lef 26:3os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ac i wneuthur ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw; yna yr Arglwydd dy Dduw #Pen 26:19a’th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear. 2A’r holl fendithion hyn a ddaw arnat, ac a’th oddiweddant, os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw. 3Bendigedig fyddi di yn y ddinas, a bendigedig yn y maes. 4Bendigedig fydd #Gen 49:25; Salm 127:3ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, a ffrwyth dy anifail di, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid. 5Bendigedig fydd dy gawell a’th #28:5 Neu, gafnau tylino.does di. 6#Salm 121:8Bendigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a bendigedig yn dy fynediad allan. 7Rhydd yr Arglwydd dy elynion a ymgodant i’th erbyn #ad. 25yn lladdedig o’th flaen di: trwy un ffordd y deuant i’th erbyn, a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o’th flaen. 8Yr Arglwydd a orchymyn fendith arnat ti, yn dy #28:8 ysguboriau.drysordai, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno; ac a’th fendithia yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti. 9#Exod 19:5, 6; Pen 7:6Yr Arglwydd a’th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthyt, os cedwi orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef. 10A holl bobloedd y ddaear a welant fod yn dy alw di ar enw yr Arglwydd, ac a ofnant rhagot. 11#Pen 30:9 &cA’r Arglwydd a’th lwydda di #28:11 Neu, o dda.mewn daioni, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy ddaear, yn y tir a dyngodd yr Arglwydd i’th dadau ar ei roddi i ti. 12Yr Arglwydd a egyr ei drysor daionus i ti, sef y nefoedd, i roddi glaw i’th dir di yn ei amser, ac i fendigo holl waith dy law: #Pen 15:6a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer, ac ni cheisi echwyn. 13A’r Arglwydd a’th wna di #Esa 9:14, 15yn ben, ac nid yn gynffon; hefyd ti a fyddi yn uchaf yn unig, ac nid yn isaf: os gwrandewi ar orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, i’w cadw, ac i’w gwneuthur; 14Ac heb gilio ohonot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i’r tu deau neu i’r tu aswy, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt.
15A bydd, #Lef 26:14; Galar 2:17; Dan 9:11, 13; Mal 2:2oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur ei holl orchmynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; y daw arnat yr holl felltithion hyn, ac y’th oddiweddant. 16Melltigedig fyddi di yn y ddinas, a melltigedig yn y maes. 17Melltigedig fydd dy gawell a’th does di. 18Melltigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid. 19Melltigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a melltigedig yn dy fynediad allan. 20Yr Arglwydd a ddenfyn arnat ti felltith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodych dy law arno, #28:20 Neu, i’w wneuthur. ac yn yr hyn a wnelych; nes dy ddinistrio a’th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y’m gwrthodaist i. 21Yr Arglwydd a wna i haint lynu wrthyt, nes iddo dy ddifa oddi ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i’w feddiannu. 22#Lef 26:16Yr Arglwydd a’th dery â darfodedigaeth ac â chryd poeth, ac â llosgfa, ac â gwres, ac â #28:22 Neu, sychder.chleddyf, ac â #Amos 4:9diflaniad, ac â mallter; a hwy a’th ddilynant nes dy ddifetha. 23#Lef 26:19Dy nefoedd hefyd y rhai sydd uwch dy ben a fyddant yn bres, a’r ddaear yr hon sydd oddi tanat yn haearn. 24Yr Arglwydd a rydd yn lle glaw dy ddaear, lwch a lludw: o’r nefoedd y disgyn arnat, hyd oni’th ddinistrier. 25#ad. 7; Pen 32:30; Esa 30:17Yr Arglwydd a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr ei di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt: a thi #Jer 15:4; 24:9; Esec 23:46a fyddi #28:25 Heb. yn wasgarfa.ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear. 26#Salm 79:2; Jer 7:33; 16:4; 34:20A’th gelain a fydd fwyd i holl ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni bydd a’u #28:26 gyrro ymaith.tarfo. 27Yr Arglwydd a’th dery di â #Exod 9:9; 15:26chornwyd yr Aifft, ac â #1 Sam 5:6; Salm 78:66chlwyf y marchogion, ac â chrach, ac ag ysfa; o’r rhai ni ellir dy iacháu. 28Yr Arglwydd a’th dery di ag ynfydrwydd, ac â dallineb, ac â syndod calon. 29Byddi hefyd #Job 5:14; Esa 59:10yn ymbalfalu ganol dydd, fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd: a diau y byddi orthrymedig ac anrheithiedig byth, ac ni bydd a’th waredo. 30#Jer 8:10Ti a ymgredi â gwraig, a gŵr arall a gydorwedd â hi: #Job 31:8; Jer 12:13; Amos 5:11; Seff 1:13ti a adeiledi dŷ, ac ni thrigi ynddo: #Pen 20:6ti a blenni winllan, ac ni #28:30 Heb. chyffredini hi; fel pen 20:6chesgli ei ffrwyth. 31Dy ych a leddir yn dy olwg, ac ni fwytei ohono: dy asyn a ddygir trwy drais o flaen dy wyneb, ac ni ddaw adref atat: dy ddefaid a roddir i’th elynion, ac ni bydd i ti achubydd. 32Dy feibion a’th ferched a roddir i bobl eraill, a’th lygaid yn gweled, ac yn pallu amdanynt ar hyd y dydd; ac ni bydd gallu ar dy law. 33Ffrwyth dy dir a’th holl lafur a fwyty pobl nid adnabuost; a byddi yn unig orthrymedig a drylliedig bob amser: 34A byddi wallgofus, #Pen 28:67gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych. 35Yr Arglwydd a’th dery di â chornwyd drygionus, yn y gliniau ac yn yr esgeiriau, yr hwn ni ellir ei iacháu, o wadn dy droed hyd dy gorun. 36Yr Arglwydd a’th ddwg di, #2 Bren 17:4, 5; 24:12; 25:7; 2 Cron 33:11a’th frenin a osodych arnat, at genedl nid adnabuost ti na’th dadau di; a gwasanaethi #Jer 16:13yno dduwiau dieithr, pren a maen. 37A byddi #1 Bren 9:7; Jer 24:9; 25:9; Sech 8:13yn syndod, yn ddihareb, ac yn watwargerdd, ymhlith yr holl bobloedd y rhai yr arwain yr Arglwydd di atynt. 38#Micha 6:15; Hag 1:6Had lawer a ddygi allan i’r maes, ac ychydig a gesgli: oherwydd y locust a’i hysa. 39Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli y grawnwin: canys pryfed a’u bwyty. 40Olewydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau, ac ag olew ni’th irir: oherwydd dy olewydden a ddihidla. 41Meibion a merched a genhedli, ac ni byddant i ti: oherwydd hwy a ânt i gaethiwed. 42Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a #28:42 Neu, feddianna.ddifa y locust. 43Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgynni yn isel isel. 44Efe a fenthycia i ti, a thi ni fenthyci iddo ef: #ad. 13; Galar 1:5efe a fydd yn ben, a thi a fyddi yn gynffon. 45A’r holl felltithion hyn a ddaw arnat, ac a’th erlidiant, ac a’th oddiweddant, hyd oni’th ddinistrier; am na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau ef, y rhai a orchmynnodd efe i ti. 46A byddant yn arwydd ac yn rhyfeddod arnat ti, ac ar dy had hyd byth. 47Oblegid na wasanaethaist yr Arglwydd dy Dduw mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, #Pen 32:15am amldra pob dim: 48Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr Arglwydd yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisiau pob dim; ac efe #Jer 28:14a ddyry iau haearn ar dy wddf, hyd oni ddinistrio efe dydi. 49#Jer 5:15; 6:22; Luc 19:43Yr Arglwydd a ddwg i’th erbyn genedl o bell, sef o eithaf y ddaear, #Jer 48:40; 49:22; Galar 4:19; Hos 8:1 mor gyflym ag yr eheda yr eryr; cenedl yr hon ni #28:49 Heb. wrandewi.ddeelli ei hiaith; 50Cenedl #28:50 Heb. wyneb‐gref.wyneb‐galed, #Esa 47:6yr hon ni dderbyn wyneb yr hynafgwr, ac ni bydd raslon i’r llanc. 51A hi a fwyty ffrwyth dy anifeiliaid, a ffrwyth dy ddaear, hyd oni’th ddinistrier: yr hon ni ad i ti ŷd, gwin, nac olew, cynnydd dy wartheg, na diadellau dy ddefaid, hyd oni’th ddifetho di. 52A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth, hyd oni syrthio dy uchel a’th gedyrn gaerau, y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt, trwy dy holl dir: hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth, o fewn dy holl dir yr hwn a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 53#Lef 26:29; 2 Bren 6:28, 29; Jer 19:9; Galar 2:20; 4:10Ffrwyth dy fru, sef cig dy feibion a’th ferched, y rhai a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, a fwytei yn y gwarchae, ac yn y cyfyngdra a ddwg dy elyn arnat. 54Y gŵr tyner yn dy blith, a’r moethus iawn, a greulona ei lygad wrth ei frawd, ac wrth #Pen 13:6wraig ei fynwes, ac wrth weddill ei feibion y rhai a weddillodd efe: 55Rhag rhoddi i un ohonynt o gig ei feibion, y rhai a fwyty efe; o eisiau gado iddo ddim yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy holl byrth. 56Y wraig dyner a’r foethus yn dy fysg, yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, gan fwythau a thynerwch, a greulona ei llygad wrth ŵr ei mynwes, ac wrth ei mab, ac wrth ei merch, 57Ac wrth ei #28:57 Heb. ail‐genedigaeth.phlentyn a ddaw allan #28:57 Heb. oddi rhwng ei thraed.o’i chorff, a’i meibion y rhai a blanta hi: canys hi a’u bwyty hwynt yn ddirgel, pan ballo pob dim arall yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth. 58Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn, gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn, YR ARGLWYDD DY DDUW; 59Yna y gwna yr Arglwydd dy blâu di yn rhyfedd, a phlâu dy had; sef plâu mawrion a pharhaus, a chlefydau drwg a pharhaus. 60Ac efe a ddwg arnat holl #Pen 7:15glefydau yr Aifft, y rhai yr ofnaist rhagddynt; a glynant wrthyt. 61Ie, pob clefyd, a phob pla, yr hwn nid yw ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon, a #28:61 Heb. ddyrchafa.ddwg yr Arglwydd arnat, hyd oni’th ddinistrier. 62Felly chwi #Pen 4:27a adewir yn ychydig bobl, lle yr oeddech fel #Pen 10:22sêr y nefoedd o luosowgrwydd; oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw. 63A bydd, megis ag y llawenychodd yr Arglwydd ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i’ch amlhau; felly #Diar 1:26; Esa 1:24y llawenycha yr Arglwydd ynoch i’ch dinistrio, ac i’ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o’r tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu. 64A’r Arglwydd #Lef 26:33; Neh 1:8; Jer 16:13a’th wasgar di ymhlith yr holl bobloedd, o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti na’th dadau; sef pren a maen. 65Ac #Amos 9:4ymhlith y cenhedloedd hyn ni orffwysi, ac ni bydd gorffwystra i wadn dy droed: canys yr Arglwydd a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl. 66A’th einioes a fydd ynghrog gyferbyn â thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi sicr o’th einioes. 67#Job 7:4Y bore y dywedi, O na ddeuai yr hwyr! ac yn yr hwyr y dywedi, O na ddeuai y bore! o achos ofn dy galon gan yr hwn yr ofni, a #ad. 34rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych. 68A’r Arglwydd #Jer 44:12; Hos 8:13; 9:3a’th ddychwel di i’r Aifft, mewn llongau, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt, #Pen 17:16na chwanegit ei gweled mwy: a chwi a ymwerthwch yno i’ch gelynion yn gaethweision ac yn gaethforynion, ac ni bydd a’ch pryno.
Currently Selected:
Deuteronomium 28: BWM1955C
Highlight
Share
Copy

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society