Deuteronomium 19
19
1 Dinasoedd noddfa; 4 a braint llofrudd ynddynt. 14 Na symuder terfyn tir. 15 Rhaid yw bod dau o dystion o’r lleiaf. 19 Cosbedigaeth gau dyst.
1Pan #Pen 12:29dorro yr Arglwydd dy Dduw ymaith y cenhedloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn rhoddi eu tir i ti, a’i #19:1 Neu, etifeddu.feddiannu ohonot ti, a phreswylio yn eu dinasoedd ac yn eu tai; 2#Exod 21:13; Num 35:10; Jos 20:2Neilltua i ti dair dinas yng nghanol dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w feddiannu. 3Paratoa ffordd i ti, a thraeana derfyn dy dir, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw yn etifeddiaeth i ti, fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno.
4 #
Pen 4:42
Dyma gyfraith y llofrudd, yr hwn a ffy yno, i fyw: yr hwn a drawo ei gymydog heb wybod, ac yntau heb ei gasáu ef #19:4 Heb. er doe ac echdoe.o’r blaen; 5Megis pan elo un gyda’i gymydog i’r coed i gymynu pren, ac a estyn ei law â’r fwyell i dorri y pren, a syrthio yr haearn #19:5 Heb. oddi ar y pren, a chaffael &co’r menybr, a chyrhaeddyd ei gymydog, fel y byddo farw; efe a gaiff ffoi i un o’r dinasoedd hyn, a byw: 6#Num 35:12Rhag i ddialydd y gwaed ddilyn ar ôl y llofrudd, a’i galon yn llidiog, a’i oddiweddyd, am fod y ffordd yn hir, a’i daro ef yn #19:6 Heb. yn ei einioes.farw, er nad oedd ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth, am nad oedd efe yn ei gasáu ef #19:6 Heb. er doe ac echdoe.o’r blaen. 7Am hynny yr ydwyf yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Tair dinas a neilltui i ti. 8A phan #Gen 15:18; Pen 12:20helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn, fel y tyngodd wrth dy dadau, a rhoddi i ti yr holl dir a addawodd efe ei roddi wrth dy dadau; 9Os cedwi y gorchmynion hyn oll, gan wneuthur yr hyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw, i garu yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef bob amser; #Jos 20:7yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn: 10Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth; ac na byddo gwaed i’th erbyn.
11Ond #Exod 21:12 &c; Num 35:16, 24; Pen 27:24os bydd gŵr yn casáu ei gymydog, ac yn cynllwyn iddo, a chodi yn ei erbyn, a’i ddieneidio fel y byddo farw, a ffoi i un o’r dinasoedd hyn: 12Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef, a chymerant ef oddi yno, a rhoddant ef yn llaw dialydd y gwaed, fel y byddo farw. 13Nac arbeded dy lygad ef, ond tyn ymaith affaith gwaed gwirion o Israel, fel y byddo daioni i ti.
14 #
Pen 27:17
; Diar 22:28; Hos 5:10Na symud derfyn dy gymydog, yr hwn a derfynodd y rhai a fu o’r blaen, o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w feddiannu.
15 #
Num 35:30;
Pen 17:6
; Mat 18:16; Ioan 8:17; 2 Cor 13:1; Heb 10:28Na choded un tyst yn erbyn neb am ddim anwiredd, neu ddim pechod, o’r holl bechodau a becho efe: wrth dystiolaeth dau o dystion, neu wrth dystiolaeth tri o dystion, y bydd safadwy y peth.
16Os cyfyd gau dyst yn erbyn neb, gan dystiolaethu bai yn ei erbyn ef; 17Yna safed y ddau ddyn y mae yr ymrafael rhyngddynt gerbron yr Arglwydd, #Pen 17:9o flaen yr offeiriaid a’r barnwyr a fyddo yn y dyddiau hynny. 18Ac ymofynned y barnwyr yn dda: ac os y tyst fydd dyst ffals, ac a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd; 19#Diar 19:5, 9; Dan 6:24Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur i’w frawd: #Pen 13:5; 17:7; 22:21, 24a thyn ymaith y drwg o’th fysg. 20A’r lleill a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ôl y peth drygionus hyn yn dy blith. 21Ac nac arbeded dy lygad: bydded #Exod 21:23; Lef 24:20; Mat 5:38einioes am einioes, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.
Currently Selected:
Deuteronomium 19: BWM1955C
Highlight
Share
Copy

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society