YouVersion Logo
Search Icon

Deuteronomium 18

18
1 Yr Arglwydd yw etifeddiaeth yr offeiriaid a’r Lefiaid. 3 Defod yr offeiriaid. 8 Rhan y Lefiaid. 9 Rhaid yw gochelyd ffieidd‐dra y cenhedloedd. 15 Rhaid yw gwrando ar Grist y Proffwyd. 20 Rhoddi y proffwyd rhyfygus i farwolaeth.
1 # Num 18:20; Pen 10:9 Ni bydd i’r offeiriaid, i’r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel: ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a’i etifeddiaeth ef, #1 Cor 9:13a fwytânt hwy. 2Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymhlith eu brodyr: yr Arglwydd yw eu hetifeddiaeth hwy, megis ag y dywedodd wrthynt.
3A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; #Lef 7:30–34rhoddant i’r offeiriad yr ysgwyddog a’r ddwy ên, a’r boten. 4#Num 18:12, 24Blaenffrwyth dy ŷd, dy win, a’th olew, a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef. 5Canys #Exod 28:1; Num 3:10dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o’th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr Arglwydd, efe a’i feibion yn dragywydd.
6A phan ddelo Lefiad o un o’th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod â holl ddymuniad ei galon i’r lle a ddewiso yr Arglwydd; 7Yna gwasanaethed efe yn enw yr Arglwydd ei Dduw, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr Arglwydd. 8Rhan am ran a fwytânt, heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau.
9Pan elych di i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd hynny. 10Na chaffer ynot a wnelo i’w fab, neu i’w ferch, #Lef 18:21fyned trwy y tân; #Lef 19:26, 31; 20:27; Esa 8:19 neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol, 11#Lef 20:27Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac #1 Sam 28:7a ymofynno â’r meirw: 12Oherwydd ffieidd‐dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd‐dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyrru hwynt allan o’th flaen di. 13Bydd #18:13 Neu, uniawn, neu, bur.berffaith gyda’r Arglwydd dy Dduw. 14Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a #18:14 Neu, etifeddi.feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond amdanat ti, nid felly y caniataodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
15 # Ioan 1:45; Act 3:22; 7:37 Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti, o’th blith dy hun, o’th frodyr dy hun, Broffwyd megis finnau; arno ef y gwrandewch; 16Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, #Pen 9:10yn nydd y gymanfa, gan ddywedyd, #Exod 20:19; Heb 12:19Na chlywyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw. 17A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, #Pen 5:28Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant. 18#Ioan 1:45; Act 3:22; 7:37Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a #Esa 51:16rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac #Ioan 4:25efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo. 19A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a’i gofynnaf ganddo. 20#Pen 13:5; Jer 14:14; Sech 13:3Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth. 21Ac os dywedi yn dy galon, Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr Arglwydd? 22#Jer 28:9Yr hyn a lefaro’r proffwyd hwnnw yn enw yr Arglwydd, #Edrych Pen 13:2a’r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr Arglwydd; y proffwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.

Currently Selected:

Deuteronomium 18: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in