YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 2

2
Trefn offrymau o rawn
1“Pan mae rhywun yn dod ag offrwm o rawn i’r ARGLWYDD, dylai ddefnyddio’r blawd gwenith gorau. Dylai dywallt olew olewydd arno ac wedyn rhoi thus arno. 2Wedyn mynd ag e at yr offeiriaid, disgynyddion Aaron. Bydd un ohonyn nhw yn cymryd llond llaw o’r blawd gwenith a’r olew, a’r thus i gyd, ac yn llosgi hwnnw fel ernes ar yr allor. Mae’n rhodd sy’n arogli’n hyfryd i’r ARGLWYDD. 3Mae’r offeiriaid, sef Aaron a’i ddisgynyddion, i gael y gweddill. Mae’n gysegredig am ei fod yn rhan o’r offrwm gafodd ei losgi i’r ARGLWYDD.
4“Pan dych chi’n cyflwyno offrwm o fara wedi’i bobi mewn popty pridd, defnyddiwch y blawd gwenith gorau. Dylai’r blawd gael ei gymysgu gydag olew olewydd i wneud bara heb furum ynddo neu fisgedi tenau wedi’u brwsio gyda’r olew.
5“Os ydy’r offrwm yn cael ei grasu ar radell, rhaid defnyddio’r blawd gwenith gorau wedi’i gymysgu gydag olew olewydd a dim burum. 6Wedyn ei dorri’n ddarnau a thywallt mwy o olew arno. Mae hwn hefyd yn offrwm o rawn.
7“Os ydy’r offrwm yn cael ei baratoi mewn padell, rhaid defnyddio’r blawd gwenith gorau wedi’i goginio mewn olew olewydd. 8Gallwch ddod ag offrwm grawn i’r ARGLWYDD os ydy e wedi’i baratoi gyda’r cynhwysion yma. Rhowch e i’r offeiriad, a bydd e’n mynd ag e at yr allor. 9Bydd yr offeiriad yn cymryd peth ohono i’w losgi’n ernes ar yr allor – yn rhodd sy’n arogli’n hyfryd i’r ARGLWYDD. 10Mae’r offeiriaid, Aaron a’i ddisgynyddion, i gael y gweddill. Mae’n gysegredig am ei fod yn rhan o’r offrwm gafodd ei losgi i’r ARGLWYDD.
11“Does dim burum i gael ei ddefnyddio yn unrhyw offrwm o rawn sy’n cael ei gyflwyno i’r ARGLWYDD. Dydy burum na mêl ddim i gael eu defnyddio mewn offrwm sydd i gael ei losgi i’r ARGLWYDD. 12Gallwch eu rhoi nhw fel offrwm o ffrwythau cyntaf y cynhaeaf i’r ARGLWYDD, ond ddylen nhw byth gael eu llosgi ar yr allor.
13“Mae halen yn cael ei ddefnyddio fel arwydd o ymrwymiad rhyngot ti a Duw. Felly paid anghofio rhoi halen ar dy offrwm o rawn. Rho halen ar bob offrwm rwyt ti’n ei gyflwyno i Dduw.
14“Os wyt ti’n dod ag offrwm o rawn cyntaf y cynhaeaf i’r ARGLWYDD, defnyddia rawn aeddfed meddal wedi’i rostio neu ei falu’n flawd. 15Ychwanega olew olewydd ato, a rho thus arno – offrwm o rawn ydy e. 16Wedyn mae’r offeiriad i losgi peth ohono fel ernes – y grawn wedi’i wasgu, yr olew a’r thus. Offrwm i gael ei losgi i’r ARGLWYDD ydy e.

Currently Selected:

Lefiticus 2: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in