YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 3

3
Offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD
1“Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni’r ARGLWYDD, os anifail o’r gyr o wartheg ydy e, gall fod yn wryw neu’n fenyw, ond rhaid iddo fod heb ddim byd o’i le arno. 2Rhaid i’r person sy’n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail ac yna ei ladd o flaen y fynedfa i’r Tabernacl. Wedyn bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn sblasio’r gwaed o gwmpas yr allor. 3Yna bydd y person sy’n cyflwyno’r offrwm yn rhoi’r darnau yma yn rhodd i’r ARGLWYDD: y braster sydd o gwmpas perfeddion yr anifail ac ar yr organau gwahanol, 4y ddwy aren a’r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau. 5Bydd yr offeiriaid yn llosgi’r rhain ar yr allor gyda’r offrwm sy’n cael ei losgi’n llwyr – yn rhodd sy’n arogli’n hyfryd i’r ARGLWYDD.
6“Os mai anifail o’r praidd o ddefaid a geifr sy’n cael ei offrymu i gydnabod daioni’r ARGLWYDD, gall fod yn wryw neu’n fenyw, ond rhaid iddo fod heb ddim byd o’i le arno. 7Os mai oen ydy’r offrwm, rhaid ei gyflwyno i’r ARGLWYDD o flaen y fynedfa i’r Tabernacl. 8Rhaid i’r person sy’n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail, ac yna ei ladd o flaen y fynedfa. Wedyn bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn sblasio’r gwaed o gwmpas yr allor. 9Yna bydd y person sy’n ei gyflwyno yn rhoi’r braster yn offrwm i’w losgi i’r ARGLWYDD: y braster ar y gynffon lydan#3:9 gynffon lydan Roedd gan y ddafad gyffredin yn Syria ac Israel gynffon lydan – yr Ofis Laticawdatws. (sydd i gael ei thorri wrth yr asgwrn cefn), y braster o gwmpas perfeddion yr anifail, y braster ar yr organau gwahanol, 10y ddwy aren a’r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau. 11Wedyn bydd offeiriad yn llosgi’r rhain ar yr allor. Dyma’r rhan o’r offrwm bwyd sy’n cael ei losgi i’r ARGLWYDD.
12“Os mai bwch gafr sy’n cael ei offrymu, rhaid ei gyflwyno i’r ARGLWYDD 13o flaen y fynedfa i’r Tabernacl. Rhaid i’r person sy’n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail, ac yna ei ladd yno. Wedyn bydd offeiriad yn sblasio’r gwaed o gwmpas yr allor. 14Yna rhaid iddo gyflwyno’r canlynol yn rhodd i’r ARGLWYDD: Y braster o gwmpas perfeddion yr anifail a’r braster ar yr organau gwahanol, 15y ddwy aren a’r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau. 16Wedyn bydd offeiriad yn llosgi’r rhain ar yr allor, yn offrwm bwyd sy’n arogli’n hyfryd i’r ARGLWYDD. Yr ARGLWYDD piau’r braster i gyd. 17Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi’n byw: Peidiwch byth â bwyta unrhyw fraster na gwaed.”

Currently Selected:

Lefiticus 3: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in