YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 19

19
Salm XIX.
I’r Pencerdd: cerdd o eiddo Dafydd.
1Y nefoedd#19:1 Y nefoedd, sef y ddwy nef weledig — tramwyle yr adar a’r cymylau, a nef y goleuadau wybrenol. — Eangder, yr ymlediad uwchben, the expance. a ddangosant ogoniant Duw,
A gwaith ei ddwylaw a amlyga’r eangder.
2Dydd ar ol dydd#19:2 Dydd ar ol dydd. Gwell yw na “dydd i ddydd.” Yr ystyr yw, fod cylchdroad parhaus y dydd a’r nos yn traethu mewn ymadrodd eglur ddoethineb a gallu y Trefnydd mawr. a draetha ymadrodd,
A nos ar ol nos a ddengys wybodaeth.
3Heb lafar#19:3 Heb lafar, &c. Nid oes iddynt eiriau llais, er hyny llefarant yn eglur, nid i’r glust, ond i’r llygad a’r meddwl, ac heb eiriau — ni chlywir eu llais,
4Trwy’r holl ddaear yr â allan eu llinell,#19:4 llinell,neu ysgrifen, scriptura, Calvin. “Y mae’r holl nefoedd weledig megys llinell yn cynnwys llythyrenau mawrion a arddangosant ogoniant Duw.”
A thrwy eithaf y byd eu lleferydd#19:4 lleferydd, — er nad oes iddynt lais, etto y mae ganddynt leferydd a glyw pawb a gywir ystyriant. .
5I’r haul y gosododd babell ynddynt#19:5 ynddynt, sef yn y nefoedd, yr hwn sydd air yn y rhif lluosog, gan mai nef yw y rhif unigol. ;
Ac efe sydd fel prïodfab#19:5 fel prïodfab, o ran ei hywychder a’i daclusrwydd, wedi ei wisgo yn ei ddillad goreu. a ddaw allan o’i ystafell,
Gorfoledda fel cawr#19:5 fel cawr, o ran ei rymusder, yn myned yn y blaen heb un attaliad. Gosodir allan bethau yn yr Ysgrythyr yn ol eu hymddangosiad. Pethau ysprydol, ac nid pethau bydol a chelfyddgar, a ddatguddia Duw. Llefara yr ysgrifenyddion santaidd am bethau naturiol yn ol y wybodaeth ag oedd ganddynt. i redeg gyrfa:
6O eithaf y nefoedd ei ddyfodiad allan,
A’i gylchred hyd eu heithafoedd;
Ac ni chelir dim rhag ei wres.
7Cyfraith#19:7 Cyfraith, &c. Pan arferir cyfraith, tystiolaeth, &c. ynghyd, dynodant amrywiol rannau o’r gair dwyfol, er y cynnwys bron bob un o honynt ar brydiau bob rhan o hono. Eu hystyr neilltuol sydd fel y canlyn: — Cyfraith — athrawiaeth — y rhan athrawiaethol. Perffaith, heb gyfeiliorni, ydyw; a thrwy fendith y nef, try neu gyfnewid yr enaid, Iehova sydd berffaith — yn troi yr enaid,
Tystiolaeth#19:7 Tystiolaeth— yr hyn a dystia Duw am ei berthynas â’i bobl a’i amod iddynt; cynnwys yn neillduol ei addewidion. Gwir ydyw, gan y cyfiawna Efe ei air; a’r hwn a gred ei dystiolaeth, ac a ymorphwys arni, a wneir yn ddoeth, er mai gwirion neu ffol a fuasai trwy gredu ac ymorphwys er dwyll a gwagedd, fel y gwna pawb a addolant ddelwau, ac a garant y byd a’i bethau darfodedig. Iehova sydd wir — yn doetholi’r gwirion;
8Deddfau#19:8 Deddfau— gosodiadau, defodau perthynol i grefydd, moddion gras. Union yw y rhai’n, sef cywir, addas, cymwys; a phan eu harferir yn iawn, gwnânt lawenhau y galon. Iehova sydd union — yn llawenhau y galon;
Gorchymyn#19:8 Gorchymyn— pob peth a ofyn Duw oddi wrthym tu ag ato ei hun, a’n cyfgreadur. Cariad yw ei sylwedd. Iehova sydd bur#19:8 burydyw; nid lygredig neu aflan, ond glân a santaidd, a goleua’r llygaid ag oeddent wedi pylu trwy ofid a thrallodau; adfywia ni, a dwg gysur ac hyfrydwch, — yn goleuo’r llygaid;
9Ofn#19:9 OfnIehova — gwir grefydd, neu addoliad Duw. Rhoddir yr egwyddor yn lle y gwaith neu’r ymarferiad. Iehova sydd lân#19:9 glânydyw, heb ddim o’r aflendid a berthyn i bob gau grefydd. — yn parhau#19:9 parhahefyd heb ddiwedd. Cyfnewidia yn aml addoliad delwau, a derfydd yn angeu. Ond nid oes darfod ar addoli Duw. byth;
Barnau#19:9 Barnau— penderfyniadau, dedfrydau, yr hyn a sefydlodd Duw mewn perthynas i’r duwiol a’r annuwiol, fel eu rhan bresennol a thragywyddol, yn enwedig yr olaf. Barna Duw gadw, a diogelu, a bendithio ei bobl, a barna gospi yr annuwiol. Iehova sydd gywir#19:9 gywirydynt, heb un bai, a chyfiawn, gan roddi i bob un yn ôl ei weithredoedd. — yn gyfiawn oll ynghyd.
10Mwy dymunol ydynt#19:10 Mwy dymunol ydynt, sef yr holl bethau a enwid, cyfraith, tystiolaeth, &c. nag aur, ïe, na choeth aur lawer;
A melusach na mêl, neu ddiferiad y diliau:
11Dy was hefyd a oleuir#19:11 oleuir— dyma ystyr gyffredin y gair, a chydwedda â’r lle hwn. Rhoddai cyfraith Duw, tystiolaeth, &c. oleuni iddo i ganfod pethau yn briodol. ganddynt;
O’u cadw y mae elw#19:11 elw, — diwedd ydyw yn lythyrenol; diwedd gwaith yw’r ffrwyth neu yr elw a ddaw o hono. Nid cymwys yw “gwobr.” lawer.
12“Ei” gamweddau#19:12 gamweddau, neu yn hytrach ef allai, gŵyriadau, deviations. , pwy a ddirnad?
Oddiwrth ddirgel-feiau#19:12 dirgel-feiau, — dirgeliadau yn lythyrenol, ond mwy goleu yn ein iaith ni yw’r gair a arferir. Yr oedd yn syniadol o’i dueddiad i wyro oddiwrth ffordd gair Duw; ond fel y cedwid ef, gweddïa ar i Dduw ei lanhau oddiwrth ddirgel-feiau neu bechodau y galon. Ymddibyna y cwbl ar agwedd y dyn oddimewn. Yr unig fodd o ymgadw rhag gwyro o lwybrau Duw, yw cael y galon yn lân. glanha fi:
13Hefyd rhag pob balchedd#19:13 balchedd, — felly Calvin, — beilchion, yn ôl Horsley, — alltudion, yn ôl y LXX. Balchder yn ddiau yw ystyr y gair: a thebyg mai syniadau a theimladau balch hunanol a feddylir, yn ymddangos mewn rhodres a mympwy yn y fuchedd. Nid oes bron un peth yn peri mwy o bechod na balchineb. Rhoddir “pob balchedd,” gan fod y gair gwreiddiol yn y rhif lluosog. attal fi, Fel na lywodraetho arnaf;
Yna perffeithir, a glanheir fi oddiwrth drosedd lawer.
14Yna perffeithir, a glanheir fi oddiwrth drosedd lawer.#19:14 drosedd lawer.— Credai y cedwid ef oddiwrth laweroedd o droseddau, trwy gael ei attal rhag llywodraeth balchder. Dyma yn eglur ystyr y lle; ac nid oes un peth yn yr ymadrodd a gyfiawnha y cyfieithiad Saesoneg, “the great transgression.” Y mae amryw droseddau ag yr arwain balchder iddynt, oddiwrth y rhai’n y byddai yn lân, a cedwid ef rhag balchder.
15Bydded#19:15 Bydded. — Myn Horsely mai bydd a ddylai fod, gan gyssylltu yr adnod â’r un flaenorol. Ond bydded a gymmeradwyir yn gyffredin, a diwedda’r Salm yn well. Gwedi yw ag sydd dra addas i bawb, a’r hon a dardd yn reddfol o galon pob gwir dduwiol. Arferwn hi beunydd. yn gymmeradwy ymadroddion fy ngenau,
A myfyrdod fy nghalon, ger dy fron di,
Iehova, fy nghraig a’m Prynwr.#19:15 Neu, ac ef allai yn well:Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, Yn gymmeradwy ger dy fron di, Iehova, fy nghraig a’m Prynwr.
NODAU.
Mae y Salm hon yn dair rhan: —
I. Llyfyr y greadigaeth, adn. 1-6
II. Llyfyr y dadguddiad dwyfol, adn. 7-11.
III. Gweddi, adn. 12-15.

Currently Selected:

Salmau 19: TEGID

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in