YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 87

87
SALM 87
Salm neu Gân meibion Cora.
1Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd.
2Yr Arglwydd a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob.
3Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti, O ddinas Duw. Sela.
4Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn.
5Ac am Seion y dywedir, Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi: a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi.
6Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela.
7Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.

Currently Selected:

Y Salmau 87: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in