YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 86

86
SALM 86
Gweddi Dafydd.
1Gostwng, O Arglwydd, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf.
2Cadw fy enaid; canys sanctaidd ydwyf: achub di dy was, O fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddiried ynot.
3Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys arnat y llefaf beunydd.
4Llawenha enaid dy was: canys atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.
5Canys ti, O Arglwydd, ydwyt dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat.
6Clyw, Arglwydd, fy ngweddi; ac ymwrando â llais fy ymbil.
7Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi.
8Nid oes fel tydi ymysg y duwiau, O Arglwydd; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di.
9Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a ogoneddant dy enw.
10Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt Dduw.
11Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd; mi a rodiaf yn dy wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw.
12Moliannaf di, O Arglwydd fy Nuw, â’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd.
13Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod.
14Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn, O Dduw, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th osodasant di ger eu bron.
15Eithr ti, O Arglwydd, wyt Dduw trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd.
16Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch.
17Gwna i mi arwydd er daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O Arglwydd, fy nghynorthwyo a’m diddanu.

Currently Selected:

Y Salmau 86: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in