YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 4

4
SALM 4
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.
1Gwrando fi pan alwyf, O Dduw fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarha wrthyf, ac erglyw fy ngweddi.
2O feibion dynion, pa hyd y trowch fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Sela.
3Ond gwybyddwch i’r Arglwydd neilltuo y duwiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno.
4Ofnwch, ac na phechwch: ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch. Sela.
5Aberthwch ebyrth cyfiawnder; a gobeithiwch yn yr Arglwydd.
6Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni? Arglwydd, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb.
7Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy na’r amser yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt.
8Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti, Arglwydd, yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch.

Currently Selected:

Y Salmau 4: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy