YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 3

3
SALM 3
Salm Dafydd, pan ffodd efe rhag Absalom ei fab.
1 Arglwydd, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn.
2Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei Dduw. Sela.
3Ond tydi, Arglwydd, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen.
4A’m llef y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Sela.
5Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr Arglwydd a’m cynhaliodd.
6Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn.
7Cyfod, Arglwydd; achub fi, fy Nuw: canys trewaist fy holl elynion ar gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion.
8Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd: dy fendith sydd ar dy bobl. Sela.

Currently Selected:

Y Salmau 3: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy