YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 29

29
1Dyma eiriau y llythyr a anfonodd Jeremeia y proffwyd o Jerwsalem at weddill henuriaid y gaethglud, ac at yr offeiriaid, ac at y proffwydi, ac at yr holl bobl y rhai a gaethgludasai Nebuchodonosor o Jerwsalem i Babilon; 2(Wedi myned Jechoneia y brenin, a’r frenhines, a’r ystafellyddion, tywysogion Jwda a Jerwsalem, a’r seiri a’r gofaint, allan o Jerwsalem;) 3Yn llaw Elasa mab Saffan, a Gemareia mab Hilceia, y rhai a anfonodd Sedeceia brenin Jwda at Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, gan ddywedyd, 4Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, wrth yr holl gaethglud, yr hon a berais ei chaethgludo o Jerwsalem i Babilon; 5Adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddynt; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. 6Cymerwch wragedd, ac enillwch feibion a merched; a chymerwch wragedd i’ch meibion, a rhoddwch eich merched i wŷr, fel yr esgoront ar feibion a merched, ac yr amlhaoch chwi yno, ac na leihaoch. 7Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas yr hon y’ch caethgludais iddi, a gweddïwch ar yr Arglwydd drosti hi; canys yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwithau.
8Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Na thwylled eich proffwydi y rhai sydd yn eich mysg chwi mohonoch, na’ch dewiniaid; ac na wrandewch ar eich breuddwydion y rhai yr ydych chwi yn peri eu breuddwydio: 9Canys y maent hwy yn proffwydo i chwi ar gelwydd yn fy enw i; ni anfonais i mohonynt, medd yr Arglwydd.
10Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pan gyflawner yn Babilon ddeng mlynedd a thrigain, yr ymwelaf â chwi, ac a gyflawnaf â chwi fy ngair daionus, trwy eich dwyn chwi drachefn i’r lle hwn. 11Oblegid myfi a wn y meddyliau yr wyf fi yn eu meddwl amdanoch chwi, medd yr Arglwydd, meddyliau heddwch ac nid niwed, i roddi i chwi y diwedd yr ydych chwi yn ei ddisgwyl. 12Yna y gelwch chwi arnaf, ac yr ewch, ac y gweddïwch arnaf fi, a minnau a’ch gwrandawaf. 13Ceisiwch fi hefyd, a chwi a’m cewch, pan y’m ceisioch â’ch holl galon. 14A mi a adawaf i chwi fy nghael, medd yr Arglwydd, a mi a ddychwelaf eich caethiwed, ac a’ch casglaf chwi o’r holl genhedloedd, ac o’r holl leoedd y rhai y’ch gyrrais iddynt, medd yr Arglwydd; a mi a’ch dygaf chwi drachefn i’r lle y perais eich caethgludo chwi allan ohono.
15Oherwydd i chwi ddywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd broffwydi i ni yn Babilon; 16Gwybyddwch mai fel hyn y dywed yr Arglwydd am y brenin sydd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, ac am yr holl bobl sydd yn trigo yn y ddinas hon, ac am eich brodyr y rhai nid aethant allan gyda chwi i gaethglud; 17Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Wele fi yn anfon arnynt y cleddyf, a newyn, a haint, a mi a’u gwnaf hwynt fel y ffigys bryntion, y rhai ni ellir eu bwyta, rhag eu dryced. 18A mi a’u herlidiaf hwynt â’r cleddyf, â newyn, ac â haint; ac mi a’u rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, yn felltith, ac yn chwithdra, ac yn chwibaniad, ac yn warth, ymysg yr holl genhedloedd lle y gyrrais i hwynt; 19Am na wrandawsant ar fy ngeiriau, medd yr Arglwydd, y rhai a anfonais i atynt gyda’m gweision y proffwydi, gan gyfodi yn fore, a’u hanfon; ond ni wrandawech, medd yr Arglwydd.
20Gan hynny gwrandewch air yr Arglwydd, chwi oll o’r gaethglud a anfonais o Jerwsalem i Babilon: 21Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, am Ahab mab Colaia, ac am Sedeceia mab Maaseia, y rhai sydd yn proffwydo celwydd i chwi yn fy enw i; Wele, myfi a’u rhoddaf hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’u lladd hwynt yng ngŵydd eich llygaid chwi. 22A holl gaethglud Jwda, yr hon sydd yn Babilon, a gymerant y rheg hon oddi wrthynt hwy, gan ddywedyd, Gwneled yr Arglwydd dydi fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon wrth y tân; 23Am iddynt wneuthur ysgelerder yn Israel, a gwneuthur godineb gyda gwragedd eu cymdogion, a llefaru ohonynt eiriau celwyddog yn fy enw i, y rhai ni orchmynnais iddynt; a minnau yn gwybod, ac yn dyst, medd yr Arglwydd.
24Ac wrth Semaia y Nehelamiad y lleferi, gan ddywedyd, 25Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Am i ti anfon yn dy enw dy hun lythyrau at yr holl bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, ac at yr holl offeiriaid, gan ddywedyd, 26Yr Arglwydd a’th osododd di yn offeiriad yn lle Jehoiada yr offeiriad, i fod yn olygwr yn nhŷ yr Arglwydd, ar bob gŵr gorffwyllog, ac yn cymryd arno broffwydo, i’w roddi ef mewn carchar, a chyffion: 27Ac yn awr paham na cheryddaist ti Jeremeia o Anathoth, yr hwn sydd yn proffwydo i chwi? 28Canys am hynny yr anfonodd atom ni i Babilon, gan ddywedyd, Hir fydd y caethiwed hwn: adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddynt; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. 29A Seffaneia yr offeiriad a ddarllenodd y llythyr hwn lle y clywodd Jeremeia y proffwyd.
30Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd, 31Anfon at yr holl gaethglud, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd am Semaia y Nehelamiad; Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi, a minnau heb ei anfon ef, a pheri ohono i chwi ymddiried mewn celwydd: 32Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele mi a ymwelaf â Semaia y Nehelamiad, ac â’i had ef: ni bydd iddo un a drigo ymysg y bobl hyn, ac ni chaiff efe weled y daioni a wnaf fi i’m pobl, medd yr Arglwydd; am iddo ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd.

Currently Selected:

Jeremeia 29: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in