YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 28

28
1Ac yn y flwyddyn honno, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn, ar y pumed mis, y llefarodd Hananeia mab Asur y proffwyd, yr hwn oedd o Gibeon, wrthyf fi yn nhŷ yr Arglwydd, yng ngŵydd yr offeiriaid a’r holl bobl, gan ddywedyd, 2Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Myfi a dorrais iau brenin Babilon. 3O fewn ysbaid dwy flynedd myfi a ddygaf drachefn i’r lle hwn holl lestri tŷ yr Arglwydd, y rhai a gymerth Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith o’r lle hwn, ac a’u dug i Babilon; 4Ac mi a ddygaf Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda, y rhai a aethant i Babilon, drachefn i’r lle hwn, medd yr Arglwydd; canys mi a dorraf iau brenin Babilon.
5Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, yng ngŵydd yr offeiriaid, ac yng ngŵydd yr holl bobl, y rhai oedd yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd; 6Ie, y proffwyd Jeremeia a ddywedodd, Amen, poed felly y gwnelo yr Arglwydd: yr Arglwydd a gyflawno dy eiriau di, y rhai a broffwydaist, am ddwyn drachefn lestri tŷ yr Arglwydd, a’r holl gaethglud, o Babilon i’r lle hwn. 7Eto, gwrando di yr awr hon y gair yma, yr hwn a lefaraf fi lle y clywech di a lle clywo yr holl bobl; 8Y proffwydi y rhai a fuant o’m blaen i, ac o’th flaen dithau erioed, a broffwydasant yn erbyn gwledydd lawer, ac yn erbyn teyrnasoedd mawrion, am ryfel, ac am ddrygfyd, ac am haint. 9Y proffwyd a broffwydo am heddwch, pan ddêl gair y proffwyd i ben, yr adnabyddir y proffwyd, mai yr Arglwydd a’i hanfonodd ef mewn gwirionedd.
10Yna Hananeia y proffwyd a gymerodd y gefyn oddi am wddf Jeremeia y proffwyd, ac a’i torrodd ef. 11A Hananeia a lefarodd yng ngŵydd yr holl bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y modd hyn y torraf fi iau Nebuchodonosor brenin Babilon o fewn ysbaid dwy flynedd oddi ar war pob cenedl. A Jeremeia y proffwyd a aeth i ffordd.
12Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd, wedi i Hananeia y proffwyd dorri y gefyn oddi am wddf y proffwyd Jeremeia, gan ddywedyd, 13Dos di, a dywed i Hananeia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Gefynnau pren a dorraist ti; ond ti a wnei yn eu lle hwynt efynnau o haearn. 14Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Rhoddaf iau o haearn ar war yr holl genhedloedd hyn, fel y gwasanaethont Nebuchodonosor brenin Babilon, a hwy a’i gwasanaethant ef: mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes iddo ef.
15Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, Gwrando yn awr, Hananeia; Ni anfonodd yr Arglwydd mohonot ti; ond yr wyt yn peri i’r bobl hyn ymddiried mewn celwydd. 16Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, mi a’th fwriaf di oddi ar wyneb y ddaear: o fewn y flwyddyn hon y byddi farw, oherwydd i ti ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd. 17Felly Hananeia y proffwyd a fu farw y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.

Currently Selected:

Jeremeia 28: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in