YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 62

62
1Er mwyn Seion ni thawaf, ac er mwyn Jerwsalem ni ostegaf, hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb, a’i hiachawdwriaeth hi fel lamp yn llosgi. 2A’r cenhedloedd a welant dy gyfiawnder, a’r holl frenhinoedd dy ogoniant: yna y gelwir arnat enw newydd, yr hwn a enwa genau yr Arglwydd. 3Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw yr Arglwydd, ac yn dalaith frenhinol yn llaw dy Dduw. 4Ni ddywedir amdanat mwy, Gwrthodedig; am dy dir hefyd ni ddywedir mwy, Anghyfannedd: eithr ti a elwir Heffsiba; a’th dir, Beula: canys y mae yr Arglwydd yn dy hoffi, a’th dir a briodir. 5Canys fel y prioda gŵr ieuanc forwyn, y prioda dy feibion dydi; ac â llawenydd priodfab am briodferch, y llawenycha dy Dduw o’th blegid di. 6Ar dy furiau di, Jerwsalem, y gosodais geidwaid, y rhai ni thawant ddydd na nos yn wastad: y rhai ydych yn cofio yr Arglwydd, na ddistewch, 7Ac na adewch ddistawrwydd iddo, hyd oni sicrhao, ac hyd oni osodo Jerwsalem yn foliant ar y ddaear. 8Tyngodd yr Arglwydd i’w ddeheulaw, ac i’w fraich nerthol, Yn ddiau ni roddaf dy ŷd mwyach yn ymborth i’th elynion; a meibion dieithr nid yfant dy win, yr hwn y llafuriaist amdano: 9Eithr y rhai a’i casglant a’i bwytânt, ac a foliannant yr Arglwydd; a’r rhai a’i cynullasant a’i hyfant o fewn cynteddoedd fy sancteiddrwydd.
10Cyniweiriwch, cyniweiriwch trwy y pyrth: paratowch ffordd y bobl; palmentwch, palmentwch briffordd; digaregwch hi: cyfodwch faner i’r bobloedd. 11Wele, yr Arglwydd a gyhoeddodd hyd eithaf y ddaear, Dywedwch wrth ferch Seion, Wele dy iachawdwriaeth yn dyfod, wele ei gyflog gydag ef, a’i waith o’i flaen. 12Galwant hwynt hefyd yn Bobl sanctaidd, yn Waredigion yr Arglwydd: tithau a elwir, Yr hon a geisiwyd, Dinas nis gwrthodwyd.

Currently Selected:

Eseia 62: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in