1
Eseia 62:4
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Ni ddywedir amdanat mwy, Gwrthodedig; am dy dir hefyd ni ddywedir mwy, Anghyfannedd: eithr ti a elwir Heffsiba; a’th dir, Beula: canys y mae yr ARGLWYDD yn dy hoffi, a’th dir a briodir.
Compare
Explore Eseia 62:4
2
Eseia 62:6-7
Ar dy furiau di, Jerwsalem, y gosodais geidwaid, y rhai ni thawant ddydd na nos yn wastad: y rhai ydych yn cofio yr ARGLWYDD, na ddistewch, Ac na adewch ddistawrwydd iddo, hyd oni sicrhao, ac hyd oni osodo Jerwsalem yn foliant ar y ddaear.
Explore Eseia 62:6-7
3
Eseia 62:3
Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw yr ARGLWYDD, ac yn dalaith frenhinol yn llaw dy DDUW.
Explore Eseia 62:3
4
Eseia 62:5
Canys fel y prioda gŵr ieuanc forwyn, y prioda dy feibion dydi; ac â llawenydd priodfab am briodferch, y llawenycha dy DDUW o’th blegid di.
Explore Eseia 62:5
Home
Bible
Plans
Videos