YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 56

56
1Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Cedwch farn, a gwnewch gyfiawnder: canys fy iachawdwriaeth sydd ar ddyfod, a’m cyfiawnder ar ymddangos. 2Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn, a mab y dyn a ymaflo ynddo; gan gadw y Saboth heb ei halogi, a chadw ei law rhag gwneuthur dim drwg.
3Ac na lefared y dieithrfab, yr hwn a lynodd wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd gan ddidoli a’m didolodd oddi wrth ei bobl; ac na ddyweded y disbaddedig, Wele fi yn bren crin. 4Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y rhai disbaddedig, y rhai a gadwant fy Sabothau, ac a ddewisant yr hyn a ewyllysiwyf, ac a ymaflant yn fy nghyfamod i; 5Ie, rhoddaf iddynt yn fy nhŷ, ac o fewn fy magwyrydd, le ac enw gwell na meibion ac na merched: rhoddaf iddynt enw tragwyddol, yr hwn ni thorrir ymaith. 6A’r meibion dieithr, y rhai a lynant wrth yr Arglwydd, gan ei wasanaethu ef, a chan garu enw yr Arglwydd, i fod yn weision iddo ef, pob un a gadwo y Saboth heb ei halogi, ac a ymaflo yn fy nghyfamod; 7Dygaf hwythau hefyd i fynydd fy sancteiddrwydd, a llawenychaf hwynt yn nhŷ fy ngweddi: eu poethoffrymau hefyd a’u hebyrth fyddant gymeradwy ar fy allor: canys fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi i’r holl bobloedd. 8Medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn a gasgl wasgaredigion Israel, Eto mi a gasglaf eraill ato ef, gyda’r rhai sydd wedi eu casglu ato.
9Pob bwystfil y maes, deuwch i ddifa, a phob bwystfil yn y coed. 10Deillion yw ei wyliedyddion: ni wyddant hwy oll ddim, cŵn mudion ydynt hwy oll, heb fedru cyfarth; yn cysgu, yn gorwedd, ac yn caru hepian. 11Ie, cŵn gwancus ydynt, ni chydnabyddant â’u digon, a bugeiliaid ydynt ni fedrant ddeall; wynebant oll ar eu ffordd eu hun, pob un at ei elw ei hun o’i gwr. 12Deuwch, meddant, cyrchaf win, ac ymlanwn o ddiod gref; a bydd yfory megis heddiw, a mwy o lawer iawn.

Currently Selected:

Eseia 56: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in