A’r meibion dieithr, y rhai a lynant wrth yr ARGLWYDD, gan ei wasanaethu ef, a chan garu enw yr ARGLWYDD, i fod yn weision iddo ef, pob un a gadwo y Saboth heb ei halogi, ac a ymaflo yn fy nghyfamod; Dygaf hwythau hefyd i fynydd fy sancteiddrwydd, a llawenychaf hwynt yn nhŷ fy ngweddi: eu poethoffrymau hefyd a’u hebyrth fyddant gymeradwy ar fy allor: canys fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi i’r holl bobloedd.