Exodus 37
37
1A Besaleel a wnaeth yr arch o goed Sittim; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder. 2Ac a’i gwisgodd hi ag aur pur o fewn ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch. 3Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall. 4Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur. 5Ac a osododd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr arch, i ddwyn yr arch.
6Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled. 7Ac efe a wnaeth ddau geriwb aur: o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt, ar ddau ben y drugareddfa; 8Un ceriwb ar y pen o’r tu yma, a cheriwb arall ar y pen o’r tu arall: o’r drugareddfa y gwnaeth efe y ceriwbiaid, ar ei dau ben hi. 9A’r ceriwbiaid oeddynt, gan ledu esgyll tuag i fyny, a’u hesgyll yn gorchuddio’r drugareddfa, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau’r ceriwbiaid oedd tuag at y drugareddfa.
10Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder. 11Ac a osododd aur pur drosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch. 12Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch. 13Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed. 14Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i’r trosolion i ddwyn y bwrdd. 15Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd. 16Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i ffiolau, a’i gaeadau i gau â hwynt, o aur pur.
17Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, oedd o’r un. 18A chwech o geinciau yn myned allan o’i ystlysau: tair cainc o’r canhwyllbren o un ystlys, a thair cainc o’r canhwyllbren o’r ystlys arall. 19Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chainc, y rhai oedd yn dyfod allan o’r canhwyllbren. 20Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a’i flodau. 21A chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono; yn ôl y chwe chainc oedd yn dyfod allan ohono. 22Eu cnapiau a’u ceinciau oedd o’r un: y cwbl ohono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth. 23Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a’i efeiliau, a’i gafnau, o aur pur. 24O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a’i holl lestri.
25Gwnaeth hefyd allor yr arogldarth o goed Sittim: o gufydd ei hyd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o’r un. 26Ac efe a’i gwisgodd hi ag aur coeth, ei chaead, a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch. 27Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i’w dwyn arnynt. 28Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a’u gwisgodd hwynt ag aur.
29Ac efe a wnaeth olew yr eneiniad sanctaidd, a’r arogl-darth llysieuog pur, o waith yr apothecari.
Currently Selected:
Exodus 37: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.