Exodus 36
36
1Yna y gweithiodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr doeth o galon, y rhai y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd a deall ynddynt, i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cysegr, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd. 2A Moses a alwodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr celfydd, y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesáu at y gwaith i’w weithio ef. 3A chymerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cysegr, i’w weithio ef. A hwy a ddygasant ato ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore. 4A’r holl rai celfydd, a’r oedd yn gweithio holl waith y cysegr, a ddaethant bob un oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.
5A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae’r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i’r gwaith a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur. 6A Moses a roes orchymyn; a hwy a barasant gyhoeddi trwy’r gwersyll, gan ddywedyd, Na wnaed na gŵr na gwraig waith mwy tuag at offrwm y cysegr. Felly yr ataliwyd y bobl rhag dwyn mwy. 7Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i’r holl waith i’w wneuthur, a gweddill.
8A’r holl rai celfydd, o’r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddeg llen o liain main cyfrodedd, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt. 9Hyd un llen oedd wyth gufydd ar hugain; a lled un llen pedwar cufydd: yr un mesur oedd i’r holl lenni. 10Ac efe a gydiodd bum llen wrth ei gilydd; ac a gydiodd y pum llen eraill wrth ei gilydd. 11Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar ei chwr eithaf yn y cydiad: felly y gwnaeth efe ar ymyl llen arall, yng nghydiad yr ail. 12Deg dolen a deugain a wnaeth efe ar un llen, a deg dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwr eithaf i’r llen ydoedd yng nghydiad yr ail: y dolennau oedd yn dal y naill len wrth y llall. 13Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau aur, ac a gydiodd y naill len wrth y llall â’r bachau; fel y byddai yn un tabernacl.
14Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr, i fod yn babell-len ar y tabernacl: yn un llen ar ddeg y gwnaeth efe hwynt. 15Hyd un llen oedd ddeg cufydd ar hugain, a lled un llen oedd bedwar cufydd: a’r un mesur oedd i’r un llen ar ddeg. 16Ac efe a gydiodd bum llen wrthynt eu hunain, a chwe llen wrthynt eu hunain. 17Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llen yn y cydiad; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llen yng nghydiad yr ail. 18Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres, i gydio y babell-len i fod yn un. 19Ac efe a wnaeth do i’r babell-len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.
20Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl o goed Sittim, yn eu sefyll. 21Deg cufydd oedd hyd ystyllen; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen. 22Dau dyno oedd i’r un ystyllen, wedi eu gosod mewn trefn, y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl. 23Ac efe a wnaeth ystyllod i’r tabernacl; ugain ystyllen i’r tu deau, tua’r deau. 24A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr ugain ystyllen: dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno. 25Ac i ail ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, efe a wnaeth ugain ystyllen, 26A’u deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall. 27Ac i ystlysau’r tabernacl, tua’r gorllewin, y gwnaeth efe chwech ystyllen. 28A dwy ystyllen a wnaeth efe yng nghonglau’r tabernacl i’r ddau ystlys. 29Ac yr oeddynt wedi eu cydio oddi tanodd; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl. 30Ac yr oedd wyth ystyllen; a’u morteisiau oedd un ar bymtheg o forteisiau arian: dwy fortais dan bob ystyllen.
31Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim: pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl, 32A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod y tabernacl i’r ystlysau o du’r gorllewin. 33Ac efe a wnaeth y bar canol i gyrhaeddyd trwy’r ystyllod o gwr i gwr. 34Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur, i fyned am y barrau; ac a wisgodd y barrau ag aur.
35Ac efe a wnaeth wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi. 36Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur; a’u pennau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.
37Ac efe a wnaeth gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith edau a nodwydd; 38A’i phum colofn, a’u pennau; ac a oreurodd eu pennau hwynt, a’u cylchau, ag aur: ond eu pum mortais oedd o bres.
Currently Selected:
Exodus 36: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.