YouVersion Logo
Search Icon

Iöb 4

4
IV.
1Yna yr attebodd Eliphaz y Temaniad a dywedodd,
2(Pe) anturiai un air â thi, ai blin fyddai gennyt?
(Etto) attal lleferydd pwy a ddichon?
3Wele, ti a hyfforddaist laweroedd,
A’r dwylaw llesg ti a gryfheaist;
4Y neb a’r oedd yn tramgwyddo, dy leferydd a’i hattegodd,
A’r gliniau gwegiawl ti a nerthaist:
5Ond yn awr daeth arnat tithau, ac y mae ’n flin gennyt,
Cyffyrddodd â thi, a thi a arswydaist:
6Onid (yw) dy ofn (ofn yr Arglwydd) yn hyder i ti,
Yn obaith i ti? — a hefyd perffeithrwydd dy ffyrdd?
7Adgofia, attolwg, pwy yw ’r hwn yn ddïeuog a fethodd,
A pha le y bu i’r rhai uniawn ddiflannu?
8Am yr hyn a welais i, arddwŷr anwiredd
A hauwŷr drygioni a’u medasant,
9Gan anadl Duw y difethwyd hwynt,
A chan chwŷthad Ei ffroenau Ef y distrywiwyd hwynt;
10 # 4:10 Y mae’n amlwg fod y llew yn dra chyffredin yn Arabia, oddi wrth y mynych grybwylliadau sydd am dano yn hen farddoniaeth yr Arabiaid, ac oddi wrth y lliaws enwau sydd arno yn eu hiaith hwy. #4:10 arwyddoceir treiswŷr ac annuwiolion galluog.Rhuad y llew, a llais y rhuedydd,
A dannedd cenawon y llew a ysgydwyd allan,
11Yr hên lew a drengodd o eisiau ysglyfaeth,
A chenawon y llewes a wasgarwyd.
12Ac attaf y daeth gair yn lladradaidd,
A derbyniodd fy nghlust husting o hono:
13Ym meddyliau gweledigaethau ’r nos,
Pan syrthio trymgwsg ar ddynion,
14Braw a gyfarfu â mi, a dychryn,
A holl nifer fy esgyrn a frawychodd efe:
15Gwỳnt#4:15 Gwynt a fyddai yn arferol o ragflaenu, neu o gyd-ddyfod â, ’r ymddangosiadau Dwyfol. Gwel, 1 Bren. 19:11. Psalm 50:3. Iöb 38:1. o flaen fy ngwyneb a aeth heibio!
Hyllodd blew fy nghnawd!
16Fe safodd, — ond nid adwaenwn ei ddrych ef,
— Lun o flaen fy llygaid!
Distawrwydd (oedd), a llais a glywais i, (sef)
17“Ai adyn ger bron Duw yn gyfiawn a fydd?
Ai ger bron ei Wneuthurwr y bydd gwr yn lân?
18Wele, yn Ei weinidogion nid ymddiried Efe,
Ac ar Ei angylion y bwrw Efe fai cyfeiliornad;
19Pa faint mwy ar drigiannyddion tai o glai,
Y rhai yn y llwch (y mae) eu sail,
Ac y difetha (dynion) hwynt fel gwyfyn;
20O’r bore hyd hwyr y malurir hwynt,
Heb neb yn ei nodi am byth y distrywir hwynt;
21 # 4:21 fel pebyll Oni thynnir eu cortynnau i fynu iddynt?
Trengu y maent hwy, ond nid mewn doethineb.”

Currently Selected:

Iöb 4: CTB

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in