YouVersion Logo
Search Icon

Iöb 3

3
III.
1Wedi hyn yr agorodd Iöb ei enau a melldithiodd ddydd ei (enedigaeth); 2a llefarodd Iöb, a dywedodd,
3Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo,
Ac am y nos a ddywedodd “Caed gwrryw.”
4Y dydd hwnnw, bydded efe yn dywyllwch,
Am dano ef nac ymofyned Duw oddi uchod,
Ac na thywynned arno lewyrch;
5Arddelwed tywyllwch a chysgod angeuaidd ef,
Arhosed arno gwmmwl,
Dychryned tywylliadau ’r dydd ef.
6Y nos honno, cymmered duedd hi,
Na lawenyched hi ym mysg dyddiau ’r flwyddyn,
Ac i rifedi ’r misoedd na ddeued hi.
7Y nos honno, bydded hi yn hesp,
Na ddeued llawen-gân ynddi;
8Melldithied #3:8 swynwyrmynegwŷr dyddiau anffodus hi,
Y rhai medrus i gyffroi ’r sarph anfeidrol;
9Tywyller ser ei chyfnos hi,
Disgwylied am oleuni ac na (fydded) iddi,
Ac na chaffed weled amrantau ’r wawr,
10Am na chauodd fy (nhrigfa) y grôth,
Ac (na) chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid.
11Pa ham na bu i mi farw o’r bru,
I mi ddyfod allan o’r grôth a threngu?
12 # 3:12 Yr arfer oedd i dad dderbyn ar ei liniau blentyn newydd ei eni. Gwnelid yr un peth gan y Rhufeiniaid. Arwydd oedd bod y tad yn ei gydnabod yn eppil iddo. Gwel Gen. 50:23. I ba beth y cyfarfu ’r gliniau â mi,
Ac i ba beth y bronnau, i mi (eu) sugno?
13Canys (felly) yn awr mi a fuaswn yn gorwedd ac yn gorphwyso,
Yn huno; yna (y buasai) llonyddwch i mi,
14Gyda brenhinoedd a chynghorwŷr y ddaear,
Y rhai a adeiladasant anghyfanneddfëydd iddynt;
15Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt,
Y rhai a lanwasant eu tai âg arian;
16Neu fel erthyl cuddiedig ni buaswn mewn bod,
Fel plant a’r na welsant oleuni.
17 # 3:17 sef, yn y bedd. Yno y mae ’r annuwiolion yn peidio âg aflonyddu,
Ac yno y gorphwys y rhai a flinasant (eu) nerth;
18Yno ynghŷd y mae ’r cadwynedigion yn dawel,
Nid ŷnt yn clywed llais y gwaith-fynnwr:
19Y bychan, a’r mawr, yno (y mae) efe,
A’r gwas yn rhydd oddi wrth ei arglwydd.
20Pa ham y rhydd (un) i’r blinderus oleuni dydd,
A bywyd i’r rhai chwerw eu henaid,
21Y rhai sy’n disgwyl am angau ac ni (ddaw),
Ac yn chwilio am dano yn fwy nag am drysorau cuddiedig,
22Y rhai a lawenychent hyd orfoledd,
(Ië) hwy a ymhyfrydent pe caent fedd?
23(A pha ham) i’r dyn yr hwn y mae ei ffordd yn #3:23 Yr hwn ni ŵyr i ba le i droi o herwydd ei drallod. guddiedig,
Ac yr argauodd yr Arglwydd arno?
24Canys o flaen fy mwyd fy uchenaid sy’n dyfod,
Ac ymdywallt fel dyfroedd y mae fy rhuadau;
25Canys y peth ofnus ag yr wyf yn ei ofni sy’n digwydd i mi,
A’r hyn yr wyf yn ei arswydo sy’n dyfod arnaf:
26Nid oes i mi esmwythdra, ac nid oes i mi lonyddwch,
Nid oes i mi orphwysdra, ond dyfod y mae cyffraw.

Currently Selected:

Iöb 3: CTB

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in