Tobit 5
5
Paratoi ar gyfer y Daith
1Yna atebodd Tobias ei dad Tobit fel hyn: “Gwnaf bob peth yr wyt wedi ei orchymyn imi, fy nhad; 2ond sut y bydd hi'n bosibl i mi gael yr arian ganddo, ac yntau heb f'adnabod i a minnau heb ei adnabod ef? Pa arwydd a roddaf iddo, er mwyn iddo f'adnabod ac ymddiried ynof a rhoi'r arian imi? Nid wyf yn gyfarwydd â'r ffyrdd i Media, chwaith, i fynd yno.” 3Yna atebodd Tobit ei fab Tobias, “Rhoddodd ei lofnod ar bapur i mi, a rhoddais innau fy llofnod iddo yntau, a thorri'r papur yn ei hanner, inni gael hanner yr un. Gadewais fy narn i gyda'r arian. Aeth ugain mlynedd heibio bellach er pan adewais yr arian yma ynghadw ganddo. Ond yn awr, fy machgen, chwilia am rywun y gellir dibynnu arno, i fynd ar y daith gyda thi. Fe dalwn gyflog iddo hyd at amser dy ddychweliad. Ac felly dos i dderbyn yr arian hwn yn ôl gan Gabael.”
Tobias yn Cyfarfod Raffael
4Aeth Tobias allan i chwilio am rywun i fynd gydag ef i Media, un a fyddai'n gyfarwydd â'r ffordd. Wedi mynd allan, fe'i cafodd ei hun wyneb yn wyneb â Raffael, yr angel, 5ond ni wyddai mai angel Duw oedd ef. Gofynnodd iddo, “O ble rwyt ti'n dod, ŵr ifanc?” “O blith meibion Israel, dy frodyr,” meddai wrtho, “ac rwyf wedi dod yma i gael gwaith.” A dyma'i holi ymhellach, “A wyt ti'n gyfarwydd â'r ffordd i fynd i Media?” 6“Ydwyf,” oedd ei ateb, “bûm yno droeon. Rwy'n gyfarwydd o brofiad â phob cam o'r ffordd. Bûm ar deithiau mynych i Media, a lletya yn nhŷ Gabael, ein brawd, sy'n byw yn Rhages yn Media. Fe'i cyfrifir yn daith dau ddiwrnod cyfan o Ecbatana i Rhages, oherwydd y mae'n gorwedd yn y mynydd-dir.” 7“Aros amdanaf, ŵr ifanc,” meddai wrtho, “rwyf am fynd i'r tŷ a rhoi gwybod i'm tad, oherwydd y mae arnaf dy angen i deithio gyda mi, ac mi ofalaf fi am dalu dy gyflog.” 8“O'r gorau,” atebodd yntau, “disgwyliaf amdanat, ond paid â bod yn rhy hir.”
Tobit yn Cyfarfod Raffael
Aeth Tobias i'r tŷ, felly, a rhoi gwybod i'w dad Tobit. “Gwrando,” meddai, “rwyf wedi taro ar gydymaith o blith ein pobl, plant Israel.” “Tyrd â'r dyn ataf,” atebodd yntau, “i mi gael gwybod beth yw ei hil a'i linach, a gweld a ellir ymddiried ynddo fel cydymaith i ti, fy machgen.”
9Aeth Tobias allan a galw arno. “Y mae 'nhad am dy weld di, ŵr ifanc,” meddai wrtho. Pan ddaeth i'r tŷ ato, Tobit oedd gyntaf â'i gyfarchiad. Ymatebodd yntau fel hyn: “A phob dymuniad da i tithau!” Ond ateb Tobit oedd: “Pa dda y gellir ei ddymuno i mi, bellach, a minnau heb ddefnydd fy llygaid? Ni allaf weld golau dydd; yr wyf wedi fy ngosod mewn tywyllwch, fel y meirw nad ydynt mwyach yn gweld y golau. Er yn fyw, rwyf yng nghwmni'r meirw; rwy'n clywed lleisiau pobl, ond ni allaf eu gweld.” “Cod dy galon,” meddai Raffael wrtho, “y mae ym mwriad Duw dy iacháu gyda hyn; cod dy galon!” Yna esboniodd Tobit iddo fel hyn: “Y mae Tobias fy mab am deithio i Media. A elli di fynd gydag ef a'i arwain yno? Fe ofalaf fi y cei di dy gyflog, fy mrawd.” Atebodd yntau, “Gallaf, mi af gydag ef. Rwy'n gyfarwydd â'r ffyrdd i gyd, am i mi fod droeon yn Media a thramwyo'i holl diroedd gwastad yn ogystal â'i mynyddoedd. Rwy'n adnabod ei ffyrdd i gyd.” 10Yna gofynnodd Tobit iddo, “Fy mrawd, i ba deulu ac i ba lwyth yr wyt ti'n perthyn? Dywed wrthyf, fy mrawd.” “Pa angen sydd i ti wybod am fy llwyth?” gofynnodd yntau. 11“Yr wyf am wybod y gwir am dy achau, fy mrawd,” meddai Tobit. “Beth yw dy enw?” 12Yna dywedodd wrtho, “Asarias wyf fi, mab Ananias yr hynaf, o blith dy frodyr.”
13Ymatebodd yntau, “Bendith arnat! Duw a'th gadwo ar y daith, fy mrawd! Paid â dal dig yn fy erbyn, fy mrawd, am i mi fynnu gwybod y gwir am dy deulu. Fel y digwydd, rwyt ti'n un o'n brodyr ac yn barchus a theilwng dy linach. Yr oeddwn yn adnabod Ananias a Nathan, dau fab Semelias yr hynaf. Yr oeddent yn arfer mynd ar bererindod i Jerwsalem gyda mi, ac yn addoli gyda mi yno. Nid aethant ar gyfeiliorn. Yr oedd dy frodyr yn ddynion da. Yr wyt ti'n tarddu o dras enwog. Ac felly bendith ar dy siwrnai!” 14Ychwanegodd, “Rhof iti ddrachma y dydd yn gyflog, a'th dreuliau angenrheidiol, yr un fath ag i'm mab; 15ac os cedwi di wrth ochr fy mab ar hyd y daith, yna fe ychwanegaf at dy gyflog.” 16“Af gydag ef,” atebodd, “a phaid ag ofni. Yn iach yr ymadawn â thi, ac yn iach y dychwelwn atat, oherwydd y mae'r ffordd yn ddiogel.” “Bendith arnat, fy mrawd,” meddai Tobit wrtho. Yna galwodd ei fab a dweud wrtho, “Fy machgen, gwna dy baratoadau ar gyfer y daith, a dos gyda'th frawd. Boed i Dduw, sydd yn y nefoedd, eich cadw'n ddiogel ar y ffordd yno, a dod â chwi'n ôl ataf yn holliach. A boed i'w angel fod gyda chwi ar y ffordd, fy machgen, er diogelwch.” Wrth ymadael i gychwyn ar ei daith, cusanodd ei dad a'i fam, a chanodd Tobit yn iach iddo.
17Ond dyma'i fam yn torri i wylo a chwyno wrth Tobit fel hyn: “Pam yr wyt ti wedi anfon fy machgen i ffwrdd? Onid ef yw'r ffon, megis, y pwyswn arni, ac yntau'n mynd a dod yn ein gwasanaeth? 18Paid â phrysuro i hel arian at arian, ond er mwyn ein bachgen, cymer fod yr arian wedi ei golli. 19Digon i ni yw'r math o fywyd sydd wedi ei roi inni gan yr Arglwydd.” 20“Paid â hel meddyliau,” meddai wrthi, “yn holliach y mae ein bachgen yn dechrau ar ei daith, ac yn holliach y daw'n ôl atom. Caiff dy lygaid di ei weld yn fyw ac yn iach ar y dydd y daw'n ôl atat. 21Paid â hel meddyliau, na phoeni amdanynt, fy chwaer, oherwydd bydd angel da yn gydymaith iddo, i hyrwyddo'i ffordd a dod ag ef yn ôl yn holliach.” 22Yna distawodd hithau, a pheidio ag wylo.
Currently Selected:
Tobit 5: BCNDA
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004