YouVersion Logo
Search Icon

Tobit 4

4
Cyngor Tobit i Tobias
1Dyna'r diwrnod y cofiodd Tobit am yr arian yr oedd wedi ei adael yng ngofal Gabael yn Rhages yn Media, 2a myfyriodd ynddo'i hun fel hyn: “Gan imi weddïo am gael marw, oni ddylwn alw Tobias fy mab ac esbonio wrtho am yr arian hwn cyn imi farw?” 3Felly, galwodd ei fab Tobias a dweud wrtho pan ddaeth ato, “Rho angladd parchus i mi, ac anrhydedda dy fam; paid â'i gadael hi'n ddigymorth tra bydd hi byw. Gwna'r hyn a fydd wrth fodd ei chalon, a phaid â pheri gofid iddi ag unrhyw weithred. 4Cofia, fy machgen, iddi wynebu peryglon lawer wrth dy gario di yn ei chroth. Pan fydd hi farw, rho hi i orwedd wrth fy ochr yn yr un bedd. 5Bydd yn ffyddlon i'r Arglwydd holl ddyddiau dy fywyd, fy machgen, heb bechu o'th ewyllys na throseddu yn erbyn ei orchmynion. Gwna weithredoedd da holl ddyddiau dy fywyd, a phaid â cherdded llwybrau drygioni; 6oherwydd caiff y rhai cywir eu gweithredoedd lwyddiant yn eu gwaith, 7ac i'r cyfiawn eu gweithredoedd 19fe rydd yr Arglwydd gyngor da, ond y mae'n darostwng i ddyfnder Hades unrhyw un a fyn. Cofia'r gorchmynion hyn yn awr, fy machgen, heb adael i'r un ohonynt gael ei ddileu o'th feddwl.#4:19 Yn ôl darlleniad arall, ceir adnodau 7–19 fel a ganlyn: 7 Gwna gymwynas o'th adnoddau i'r cyfiawn eu gweithredoedd, a phaid â bod yn rwgnachlyd dy olwg wrth wneud hynny. Paid â throi dy wyneb oddi wrth unrhyw un tlawd, ac ni fydd wyneb Duw byth wedi ei droi oddi wrthyt ti. 8 Gwna gymwynas yn gymesur ag amlder dy adnoddau; os ychydig ydynt, paid â bod â chywilydd gwneud cymwynas yn ôl yr ychydig sydd gennyt; 9 oherwydd bydd yn drysor rhagorol ynghadw i ti ar gyfer amser argyfwng. 10 Yn wir, y mae cymwynas yn ein hachub rhag angau; nid yw'n caniatáu inni fynd i'r tywyllwch. 11 Rhodd dderbyniol gan y Goruchaf yw cymwynas, pwy bynnag sy'n ei gwneud. 12 Ymochel, fy machgen, rhag pob godineb; o flaen pob peth, cymer wraig o hil dy hynafiaid. Paid â chymryd estrones yn wraig, un nad yw'n disgyn o lwyth dy dad; oherwydd meibion y proffwydi ydym ni. Cofia, fy machgen, fod Noa, Abraham, Isasac a Jacob, ein cyndadau o'r dechrau, bob un ohonynt wedi cymryd gwraig o blith eu cyd-genedl a chael bendith yn eu plant. Eu disgynyddion fydd yn etifeddu'r tir. 13 Yn awr, felly, câr dy genedl dy hun, fy machgen; paid â bod yn rhy falch yn dy gyfrif ohonot dy hun i briodi merch o'th genedl dy hun, meibion a merched dy bobl, oherwydd y mae balchder yn esgor ar ddistryw ac anhrefn llwyr, a diogi yn esgor ar brinder a thlodi mawr—yn wir, mam newyn yw diogi. 14 Paid â chadw cyflog unrhyw weithiwr yn dy feddiant dros nos, ond tâl ei gyflog iddo ar unwaith; os wyt ti'n gwasanaethu Duw, cei dithau dy dâl. Bydd yn wyliadwrus yn dy holl weithredoedd, fy machgen, ac yn ddisgybledig yn dy holl ymddygiad. 15 Paid â gwneud i neb yr hyn sy'n gas gennyt. Paid ag yfed gwin hyd at fedd-dod na chymryd medd-dod yn gydymaith iti ar dy ffordd. 16 Rhanna dy dorth â'r newynog a'th ddillad â'r noethion. Rho bob peth sydd dros ben gennyt yn elusen, a phaid â bod yn rwgnachlyd dy olwg wrth ei roi. 17 Tywallt dy fara ar fedd y chfiawn, ond paid â rhoi dim i bechaduriaid. 18 Ceisia gyngor gan bob un doeth. A phaid â dirmygu unrhyw gyngor buddiol. 19 Bendithia'r Arglwydd dy Dduw ar bob achlysur, a gweddïa ar iddo hyrwyddo dy ffyrdd a rhoi llwyddiant iti yn dy holl lwybrau a'th amcanion; oherwydd nid oes gan un o'r Cenhedloedd y fath gyngor; yr Arglwydd ei hun sy'n rhoi pob peth da. Y mae'n darostwng unrhyw un a fyn, yn ôl ei ewyllys. Cofia'r gorchmynion hyn yn awr, fy machgen, heb adael i'r un ohonhyt gael ei ddileu o'th feddwl.
20“Ac yn awr, fy machgen, rwyf am i ti wybod bod gennyf ddeg darn arian ynghadw yng ngofal Gabael, brawd Gabri, yn Rhages yn Media. 21Ac felly, os ydym wedi mynd yn dlawd, paid â phryderu, fy machgen. Mawr fydd dy gyfoeth os bydd iti ddal i ofni Duw, gan gilio oddi wrth bob pechod a gwneud yr hyn sydd dda yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.”

Currently Selected:

Tobit 4: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in