YouVersion Logo
Search Icon

Diarhebion 3

3
Cyngor i'r Ifanc
1Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd;
cadw fy ngorchmynion yn dy gof.
2Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiau
a rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant.
3Paid â gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb;
rhwym hwy am dy wddf,
ysgrifenna hwy ar lech dy galon;
4a byddi'n ennill ffafr ac enw da
yng ngolwg Duw a dynion.
5Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD,
a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun.
6Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd,
bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.
7Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun;
ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg.
8Bydd hyn yn iechyd i'th gorff,
ac yn faeth i'th esgyrn.
9Anrhydedda'r ARGLWYDD â'th gyfoeth,
ac â blaenffrwyth dy holl gynnyrch.
10Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn,
a'th gafnau'n gorlifo gan win.
11Fy mab, paid â diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD,
a phaid â digio wrth ei gerydd;
12oherwydd ceryddu'r un a gâr y mae'r ARGLWYDD,
fel tad sy'n hoff o'i blentyn.
13Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb,
a'r un sy'n berchen deall.
14Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian,
a'i chynnyrch yn well nag aur.
15Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau,
ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.
16Yn ei llaw dde y mae hir oes,
a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.
17Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd,
a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.
18Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi,
a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi.
19Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear,
ac â deall y sicrhaodd y nefoedd;
20trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau,
ac y defnynna'r cymylau wlith.
21Fy mab, dal d'afael ar graffter a phwyll;
paid â'u gollwng o'th olwg;
22byddant yn iechyd i'th enaid,
ac yn addurn am dy wddf.
23Yna cei gerdded ymlaen heb bryder,
ac ni fagla dy droed.
24Pan eisteddi#3:24 Felly Groeg. Hebraeg, orweddi., ni fyddi'n ofni,
a phan orweddi, bydd dy gwsg yn felys.
25Paid ag ofni rhag unrhyw ddychryn disymwth,
na dinistr y drygionus pan ddaw;
26oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn hyder iti,
ac yn cadw dy droed rhag y fagl.
27Paid â gwrthod cymwynas i'r sawl sy'n ei haeddu,
os yw yn dy allu i'w gwneud.
28Paid â dweud wrth dy gymydog, “Tyrd yn d'ôl eto,
ac fe'i rhoddaf iti yfory”,
er ei fod gennyt yn awr.
29Paid â chynllunio drwg yn erbyn dy gymydog,
ac yntau'n ymddiried ynot.
30Paid â chweryla'n ddiachos ag unrhyw un,
ac yntau heb wneud cam â thi.
31Paid â chenfigennu wrth ormeswr,
na dewis yr un o'i ffyrdd.
32Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ffieiddio'r cyfeiliornus,
ond yn rhannu ei gyfrinach â'r uniawn.
33Y mae melltith yr ARGLWYDD ar dŷ'r drygionus,
ond y mae'n bendithio trigfa'r cyfiawn.
34Er iddo ddirmygu'r dirmygwyr,
eto fe rydd ffafr i'r gostyngedig.
35Etifedda'r doeth anrhydedd,
ond y ffyliaid bentwr o warth.

Currently Selected:

Diarhebion 3: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy