YouVersion Logo
Search Icon

Diarhebion 2

2
Gwobr Doethineb
1Fy mab, os derbynni fy ngeiriau,
a thrysori fy ngorchmynion,
2a gwrando'n astud ar ddoethineb,
a rhoi dy feddwl ar ddeall;
3os gelwi am ddeall,
a chodi dy lais am wybodaeth,
4a chwilio amdani fel am arian,
a chloddio amdani fel am drysor—
5yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD,
a chael gwybodaeth o Dduw.
6Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb,
ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall.
7Y mae'n trysori craffter i'r uniawn;
y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir.
8Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder,
ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid.
9Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn,
ac uniondeb a phob ffordd dda;
10oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl,
a deall yn rhoi pleser iti.
11Bydd pwyll yn dy amddiffyn,
a deall yn dy warchod,
12ac yn dy gadw rhag ffordd drygioni,
a rhag y rhai sy'n siarad yn dwyllodrus—
13y rhai sy'n gadael y ffordd iawn
i rodio yn llwybrau tywyllwch,
14sy'n cael pleser mewn gwneud drwg
a mwynhad mewn twyll,
15y rhai y mae eu ffordd yn gam
a'u llwybrau'n droellog.
16Fe'th geidw oddi wrth y wraig ddieithr,
a rhag y ddynes estron a'i geiriau dengar,
17sydd wedi gadael cymar ei hieuenctid,
ac wedi anghofio cyfamod ei Duw.
18Oherwydd y mae ei thŷ yn gwyro at angau,
a'i llwybrau at y cysgodion.
19Ni ddaw neb sy'n mynd ati yn ei ôl,
ac ni chaiff ailafael ar lwybrau bywyd.
20Felly gofala di rodio yn ffyrdd y da,
a chadw at lwybrau'r cyfiawn.
21Oherwydd y rhai cyfiawn a drig yn y tir,
a'r rhai cywir a gaiff aros ynddo;
22ond torrir y rhai drwg o'r tir,
a diwreiddir y twyllwyr ohono.

Currently Selected:

Diarhebion 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy