Os gwnei di stopio teithio ar y Saboth,
a plesio dy hun ar fy niwrnod sbesial i;
os gwnei di alw’r Saboth yn bleser,
parchu diwrnod sbesial yr ARGLWYDD,
dangos parch ato drwy beidio gwneud beth wyt ti eisiau,
plesio dy hun, a siarad fel y mynni –
wedyn gelli ddisgwyl i’r ARGLWYDD gael ei blesio.
Byddi’n llwyddo, a fydd dim yn dy rwystro,
a chei fwynhau etifeddiaeth Jacob, dy dad.”
–mae’r ARGLWYDD wedi dweud.