Dyma mae’r Un uchel iawn yn ei ddweud,
yr un sy’n aros am byth, a’i enw’n sanctaidd:
Dw i’n byw mewn lle uchel a sanctaidd,
ond dw i hefyd gyda’r rhai gostyngedig sydd wedi’u sathru –
dw i’n adfywio’r rhai gostyngedig,
ac yn codi calon y rhai sydd wedi’u sathru.
Dw i ddim yn mynd i ddadlau drwy’r adeg,
na dal dig am byth.
Dw i ddim eisiau i ysbryd y bobl ballu,
gan mai fi sy’n rhoi anadl iddyn nhw fyw.