YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 58

58
Ymprydio go iawn
1“Gwaedda mor uchel ag y medri di, heb ddal yn ôl;
Cod dy lais fel sain corn hwrdd!#58:1 corn hwrdd Hebraeg, shoffar.
Dwed wrth fy mhobl eu bod nhw wedi gwrthryfela,
ac wrth bobl Jacob eu bod nhw wedi pechu.
2Maen nhw’n troi ata i bob dydd,
ac yn awyddus i ddysgu am fy ffyrdd.
Yn ôl pob golwg maen nhw’n genedl sy’n gwneud beth sy’n iawn
ac sydd heb droi cefn ar ddysgeidiaeth eu Duw.
Maen nhw’n gofyn i mi am y ffordd iawn,
ac yn awyddus i glosio at Dduw.
3‘Pam oeddet ti ddim yn edrych
pan oedden ni’n ymprydio?’ medden nhw,
‘Pam oeddet ti ddim yn cymryd sylw
pan oedden ni’n cosbi ein hunain?’
Am eich bod chi’n ymprydio i blesio’ch hunain
ac yn cam-drin eich gweithwyr yr un pryd!
4Dych chi’n ymprydio i ffraeo a ffustio,
Dim dyna’r ffordd i ymprydio
os ydych chi eisiau i Dduw wrando.
5Ai dyma sut ymprydio dw i eisiau –
diwrnod pan mae pobl yn llwgu eu hunain,
ac yn plygu eu pennau fel planhigyn sy’n gwywo?
Diwrnod i orwedd ar sachliain a lludw?
Ai dyna beth wyt ti’n ei alw’n ymprydio,
yn ddiwrnod sy’n plesio’r ARGLWYDD?
6Na, dyma’r math o ymprydio dw i eisiau:
cael gwared â chadwyni anghyfiawnder,
datod rhaffau’r iau
a gollwng y rhai sy’n cael eu gormesu yn rhydd;
dryllio popeth sy’n rhoi baich ar bobl.
7Rhannu dy fwyd gyda’r newynog,
rhoi lle i fyw i’r rhai tlawd sy’n ddigartref
a rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth;
peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu.
8Wedyn bydd dy olau’n disgleirio fel y wawr,
a byddi’n cael dy adfer yn fuan.
Bydd dy gyfiawnder yn mynd o dy flaen di,
a bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn o’r tu ôl.
9Wedyn, byddi’n galw, a bydd yr ARGLWYDD yn ateb;
byddi’n gweiddi, a bydd e’n dweud, ‘Dw i yma’.
Rhaid cael gwared â’r iau sy’n gorthrymu,
stopio pwyntio bys a siarad yn gas.
10Rhaid i ti wneud popeth fedri i helpu’r newynog,
a chwrdd ag anghenion y rhai sy’n diodde.
Wedyn bydd dy olau’n disgleirio yn y tywyllwch,
a bydd dy dristwch yn troi’n olau fel canol dydd!
11Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser,
yn torri dy syched pan wyt ti mewn anialwch poeth,
ac yn dy wneud yn gryf.
Byddi fel gardd wedi’i dyfrio,
neu ffynnon ddŵr sydd byth yn sychu.
12Byddi’n ailgodi’r hen adfeilion,
ac yn adeiladu ar yr hen sylfeini.
Byddi’n cael dy alw yn
‘atgyweiriwr y waliau’ ac yn
‘adferwr y strydoedd’, i bobl fyw yno.
Cadw’r Saboth
13Os gwnei di stopio teithio ar y Saboth,
a plesio dy hun ar fy niwrnod sbesial i;
os gwnei di alw’r Saboth yn bleser,
parchu diwrnod sbesial yr ARGLWYDD,
dangos parch ato drwy beidio gwneud beth wyt ti eisiau,
plesio dy hun, a siarad fel y mynni –
14wedyn gelli ddisgwyl i’r ARGLWYDD gael ei blesio.
Byddi’n llwyddo, a fydd dim yn dy rwystro,#58:14 llwyddo, a fydd dim yn dy rwystro Hebraeg, “marchogaeth ar fannau uchel y ddaear”.
a chei fwynhau etifeddiaeth Jacob, dy dad.”
–mae’r ARGLWYDD wedi dweud.

Currently Selected:

Eseia 58: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in