Ioan 9
9
A.D. 32. —
1 Y dyn a anwyd yn ddall yn cael ei olwg; 13 ei ddwyn ef at y Phariseaid: 16 hwythau yn cael eu tramgwyddo, ac yn ei esgymuno ef; 35 ac yntau yn cael ei dderbyn gan yr Iesu, ac yn ei gyffesu ef. 39 Pwy yw y rhai y mae Crist yn eu goleuo.
1Ac wrth fyned heibio, efe a ganfu ddyn dall o’i enedigaeth. 2A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall? 3Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na’i rieni chwaith: #Pen 11:4eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. 4#Pen 5:19|JHN 5:19; 11:9; 12:35Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a’m hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd: y mae’r nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio. 5Tra ydwyf yn y byd, #Pen 1:5, 9; 8:12; 12:35, 46goleuni’r byd ydwyf. 6Wedi iddo ef ddywedyd hyn, #Marc 7:33; 8:23efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o’r poeryn, ac a #9:6 daenodd.irodd y clai ar lygaid y dall; 7Ac a ddywedodd wrtho, Dos, ac ymolch yn #Neh 3:15llyn Siloam, (yr hwn a gyfieithir, Anfonedig). Am hynny efe a aeth ymaith, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled.
8Y cymdogion gan hynny, a’r rhai a’i gwelsent ef o’r blaen, mai dall oedd efe, a ddywedasant, Onid hwn yw’r un oedd yn eistedd ac yn cardota? 9Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe: ac eraill, Y mae efe yn debyg iddo. Yntau a ddywedodd, Myfi yw efe. 10Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di? 11Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Dyn a elwir Iesu, a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i; ac a ddywedodd wrthyf, Dos i lyn Siloam, ac ymolch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg. 12Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Yntau a ddywedodd, Ni wn i.
13Hwythau a’i dygasant ef at y Phariseaid, yr hwn gynt a fuasai yn ddall. 14A’r Saboth oedd hi pan wnaeth yr Iesu y clai, a phan agorodd efe ei lygaid ef. 15Am hynny y Phariseaid hefyd a ofynasant iddo drachefn, pa fodd y cawsai efe ei olwg. Yntau a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled. 16Yna rhai o’r Phariseaid a ddywedasant, Nid yw’r dyn hwn o Dduw, gan nad yw efe yn cadw’r Saboth. Eraill a ddywedasant, #Pen 9:33; Ioan 3:2Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac #Pen 7:12, 43; 10:19yr oedd ymrafael yn eu plith. 17Hwy a ddywedasant drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdano ef, am agoryd ohono dy lygaid di? Yntau a ddywedodd, #Pen 4:19; 6:14 Mai proffwyd yw efe. 18Am hynny ni chredai’r Iddewon amdano ef, mai dall fuasai, a chael ohono ef ei olwg, nes galw ohonynt ei rieni ef, yr hwn a gawsai ei olwg. 19A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr? 20Ei rieni ef a atebasant iddynt hwy, ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac mai yn ddall y ganwyd ef: 21Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nis gwyddom ni: y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef: efe a ddywed amdano’i hun. 22Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am #Pen 7:13; 12:42; 19:38; Act 5:13eu bod yn ofni’r Iddewon: oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, #9:22 yr esgymunid ef.#Pen 16:2y bwrid ef allan o’r synagog. 23Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef. 24Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro’r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw’r dyn hwn. 25Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled. 26Hwythau a ddywedasant wrtho drachefn, Beth a wnaeth efe i ti? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di? 27Yntau a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisoes, ac ni wrandawsoch: paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? a ydych chwithau yn ewyllysio bod yn ddisgyblion iddo ef? 28Hwythau a’i difenwasant ef, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddisgybl iddo ef; eithr disgyblion Moses ydym ni. 29Nyni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses: eithr hwn, #Pen 8:14nis gwyddom ni o ba le y mae efe. 30Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i. 31Ac ni a wyddom #Job 27:9; 35:12; Salm 18:41; Diar 1:28; 28:9; Esa 1:15; Jer 11:11; 14:12; Esec 8:18; Micha 3:4; Sech 7:13nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid: ond os yw neb yn addolwr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae yn ei wrando. 32Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall. 33#Ad. 16Oni bai fod hwn o Dduw, ni allai efe wneuthur dim. 34Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti oll; ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a’i #9:34 Neu, esgymunasant ef.bwriasant ef allan. 35Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei #9:35 esgymuno.fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym Mab Duw? 36Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo? 37A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a’i gwelaist ef; a’r hwn sydd yn ymddiddan â thi, hwnnw ydyw efe. 38Yntau a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd. Ac efe a’i haddolodd ef.
39A’r Iesu a ddywedodd, #Pen 5:22, 27; Edrych Ioan 3:17; 12:47I farn y deuthum i’r byd hwn; #Mat 13:13fel y gwelai’r rhai nid ydynt yn gweled, ac yr elai’r rhai sydd yn gweled yn ddeillion. 40A rhai o’r Phariseaid a oedd gydag ef, a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, Ydym ninnau hefyd yn ddeillion? 41Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, #Pen 15:22, 24Pe deillion fyddech, ni byddai arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym ni yn gweled; am hynny y mae eich pechod yn aros.
Tans Gekies:
Ioan 9: BWM1955C
Kleurmerk
Deel
Kopieer
Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society