Genesis 11

11
1 Un iaith yn y byd. 3 Adeiladu Babel. 5 Cymysgu yr ieithoedd. 10 Cenedlaethau Sem. 27 Cenedlaethau Tera tad Abram. 31 Tera yn myned o Ur i Haran.
1A’r holl ddaear ydoedd o un #11:1 Heb. wefus.iaith, ac o un #11:1 Heb. eiriau.ymadrodd. 2A bu, a hwy yn ymdaith #11:2 Neu, tu a’r dwyrain; fel Pen 13:11o’r dwyrain, gael ohonynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant. 3A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch. 4A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a’i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear. 5A’r Arglwydd a ddisgynnodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion. 6A dywedodd yr Arglwydd, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur. 7Deuwch, disgynnwn, a chymysgwn yno eu hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd. 8Felly yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant ag adeiladu’r ddinas. 9Am hynny y gelwir ei henw hi #11:9 Sef, Cymysg.Babel; oblegid yno y cymysgodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.
10 # Pen 10:22 ; 1 Cron 1:17Dyma genedlaethau Sem: Sem ydoedd fab can mlwydd, ac a genhedlodd Arffacsad ddwy flynedd wedi’r dilyw. 11A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arffacsad, bum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 12Arffacsad hefyd a fu fyw bymtheng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Sela. 13Ac Arffacsad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Sela, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 14Sela hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber. 15A Sela a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 16#1 Cron 1:19Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac a genhedlodd #Luc 3:35 PhalecPeleg. 17A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 18Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu. 19A Pheleg a fu fyw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 20Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd #Luc 3:35 SaruchSerug. 21A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 22Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd #11:22 Neu, Nahor.Nachor. 23A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 24Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd #Luc 3:34 TharaTera. 25A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Tera, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 26Tera hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac #Jos 24:2; 1 Cron 1:26a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.
27A dyma genedlaethau Tera: Tera a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot. 28A Haran a fu farw o flaen Tera ei dad, yng ngwlad ei enedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid. 29Yna y cymerodd Abram a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram oedd Sarai; ac enw gwraig Nachor, #Pen 22:20Milca, merch Haran, tad Milca, a thad Isca. 30A #Pen 16:1,2; 18:11, 12Sarai oedd amhlantadwy, heb blentyn iddi. 31A Thera a gymerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei #11:31 ferch yng nghyfraith.waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o #Neh 9:7; Act 7:4Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno. 32A dyddiau Tera oedd bum mlynedd a dau can mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.

Kleurmerk

Deel

Kopieer

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan