Salmau 23:4
Salmau 23:4 SC1875
Pe rhodiwn ’rhyd glyn cysgod angeu Nid ofnwn un niwed na nam, Fy Mugail gofalus a’m gwyliai, I’m tywys a’m harwain bob cam; Ei wialen a’i ffon a’m cysurant, Ni theimlwn un arswyd i’m bron, Bwystfilod ’sglyfaethus a giliant Pan welant y wialen a’r ffon.