Psalmau 1

1
I.
1Oh ddedwyddwch y dyn a ’r na rodio ynghyngor y drygionus,
Ac yn ffordd y pechadurus na pharhâo,
Ac yn eisteddfa’r gwatwarwyr nad eisteddo,
2Eithr yn addysg Iehofah (y bô) ei hyfrydwch,
Ac yn Ei addysg Ef a fyfyrio ddydd a nos!
3Canys bydd efe fel pren plannedig ar fin prillion dyfroedd,
Yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei dymmor, —
Ac ei ddeilen ni wywa,
A ’r oll a ’r a wnelo efe a lwydda.
4Nid felly y drygionus rai,
Eithr fel manus, yr hwn a yrr y gwynt ymaith.
5Am hynny nid sefyll a gaiff y drygionus rai yn y farn,
Na’r pechadurus ynghynnulleidfa’r cyfiawn rai;
6Canys cydnebydd Iehofah ffordd y cyfiawn rai,
Ond ffordd y drygionus rai a ddistrywir.

Tans Gekies:

Psalmau 1: CTB

Kleurmerk

Deel

Kopieer

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan