Iöb 36

36
XXXVI.
1A chwanegodd Elihw a dywedodd,
2Disgwyl wrthyf ychydig a llefaraf wrthyt,
Canys etto o blaid Duw (y mae gennyf) ymadroddion;
3 # 36:3 =nid oddi wrth bethau cyffredin yr wyf ar fedr ymresymmu. Cymmeraf fy ngwybodaeth o hirbell,
Ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder;
4Canys, yn wir, nid celwydd (fydd) fy ymadroddion,
Un difefl ei wybodaeth (sydd) gyda thi.
5Wele, Duw, cadarn (yw), ac ni ddirmyga,
Cadarn yngrym deall;
6Nid achub bywyd yr annuwiol y mae Efe,
Ond iawnder y rhai addfwyn a rydd Efe;
7Ni thỳn Efe Ei lygaid oddi ar y cyfiawn,
Ond gyda brenhinoedd ar yr orseddfaingc
Y gesyd Efe hwynt beunydd, a dyrchefir hwy:
8Ond os wedi eu rhwymo mewn cadwyni
Y dèlir hwy â rhaffau cystudd,
9Ac y dengys Efe iddynt eu gweithredoedd
A’u camweddau, am ymfawrygu o honynt,
10Ac yr egyr Efe eu clustiau am gerydd,
Ac y dywaid am ddychwel o honynt oddiwrth annuwioldeb;
11Os gwrandawant hwy, a’i wasanaethu (Ef),
Diweddir eu dyddiau mewn daioni,
A’u blynyddoedd mewn hyfrydwch:
12Ond os na wrandawant, trwy’r #Psalm 64:7.saeth y cânt fudo ymaith,
Ac y trengant trwy #36:12 am na fynnent adnabod Duwddiffyg gwybodaeth;
13A’r rhai annuwiol o galon a drysorant ddig,
Ni wnant #36:13 sef at Dduw am gymmorth.waeddu o herwydd iddo Ef eu rhwymo;
14Trengu mewn ieuengtid a wna eu henaid hwynt,
# Gwel Deut. 23:17. A’u bywyd ymhlith y sodomiaid.
15Gweryd Efe y gostyngedig yn ei ostyngeiddrwydd,
Ac egyr eu clustiau mewn cystudd.
16Ac, yn ddïau, rhagor nag (y gwnelsai) genau cyfyngder, y’th annogodd
Ehangder diwasgfa,
A llwyth dy fwrdd llawn o frasder;
17Ac o gwynddadl yr annuwiol yr wyt yn llawn,
Y gwynddadl a’r farn a gydgyssylltwyd.
18 # 36:18 O herwydd bod Duw yn ddigofus, ni ddylai efe ei dwyllo ei hun drwy obeithio troi ymaith y gosp gyda rhoddion. Am fod digofaint, â helaethrwydd nac annoged,
A’r na ŵyred, mawr bridwerth di:
19A rydd Efe fri ar dy gyfoeth? — Na (wna) ar aur,
Ac ar holl nerthoedd golud.
20Na ddyheua am y #36:20 sef angau. 7:15.nos,
Yr hon sydd i ddwyn ymaith bobloedd o’u lle:
21Gwylia na thröi at annuwioldeb,
Canys hynny a ddewisaist rhagor goddefgarwch.
22Welo, Duw sydd ddyrchafedig yn Ei nerth,
Pwy, fel Efe, (sydd) feistr?
23Pwy a bennododd iddo Ef Ei ffordd,
A phwy a ddywedodd wrtho “Gwnaethost ddrygioni?”
24 # 36:24 =gwell i ti gyttuno â’r rhai hyn na beio arno Ef Cofia fawrhâu Ei weithred Ef
Yr hon a ddadganodd dynion:
25Daearolion oll sy’n tremio arni hi,
Dyn a’i gwêl hi o hirbell.
26Wele, Duw sydd ddyrchafedig hyd na wyddom ni;
Nifer Ei flynyddoedd Ef, nid (oes ei) chwilio allan:
27 # 36:27 sef o’r ddaear Canys fe attŷn Efe ddefnynnau ’r dyfroedd,
Hwythau a dywalltant wlaw, Ei darth Ef,
28Yr hwn y mae ’r cymmylau yn ei ddiferu,
(Ac) yn ei ddihidlo ar ddaearolion lawer.
29Ac etto, a ddeall dyn #36:29 =y melltholltiadau ’r cymmylau,
(A) #36:29 y taranauthyrfau Ei babell Ef?
30Wele, Efe a daena arno Ei hun Ei oleuni,
# 36:30 y mawr wlaw Ac â gwraidd y môr a ymorchuddia;
31Canys â hwynt, y barn Efe ’r bobloedd,
Y rhydd Efe fwyd yn ehelaeth;
32Ei ddwylaw Efe a orchuddia â #36:32 y felltenthân;
Ac a rydd iddo orchymyn yn erbyn y gelyn;
33Mynegu am dano Ef a wna Ei dwrf,
(A)’r#36:33 Duw yn dyfod yn erbyn yr annuwiol, fel rhyfelwr yn erbyn dinas elynawl; a’i ddyfodiad Ef a fynegir gan y taranau, a rhagddynt y bydd gwartheg, defaid &c. yn dangos braw. Gwel Virgil, Geor. 1:374, &c. ddiadell yn ddïau am y dyfodiad i fynu;

Tans Gekies:

Iöb 36: CTB

Kleurmerk

Deel

Kopieer

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan