Iöb 16

16
XVI.
1Yna yr attebodd Iöb, a dywedodd,
2Clywais o’r fath hyn lawer o bethau:
Cysurwŷr blinadwy (ydych) chwi oll.
3 # 16:3 gair Eliphaz 15:2. Oni (fydd) diwedd i eiriau gwỳntawg?
Neu, pa beth sy’n dy ennynu fel yr attebit (felly)?
4Myfi hefyd a fedrwn lefaru fel chwithau
Ped fai eich enaid chwi yn lle fy enaid i,
Medrwn gyssylltu ymadroddion i’ch erbyn,
A medrwn ysgwyd fy mhen arnoch chwithau,
5Medrwn eich cryfhâu a’m #16:5 ac nid â ’r galon, fel y gwnaethant hwy.genau,
A thosturi fy ngwefusau a allai attal (eich gofid).
6Os llefaraf fi, nid ymettyl fy nolur;
Ac os peidiaf, pa beth (o hono) a ymedy oddi wrthyf?
7Yn ddïau, yn awr Efe a’m gorflinodd;
Diffeithaist fy holl #Gwel 15:34.gynnulliad:
8Crafangaist arnaf, a thyst yw (hynny,)
A chyfodi yn fy erbyn y mae fy nghulni,
O flaen fy ngwyneb y tystiolaetha ef;
9 # 16:9 fel bwystfil Ei ddigllonedd Ef a’m rhwygodd ac a’m cynllwynodd,
Ysgyrnygodd arnaf â’i ddannedd;
Yn elyn i mi, fe flaenllymmodd Efe Ei Iygaid yn fy erbyn.
10 # Gwel 30:1. (Dynion) a ledasant eu safnau arnaf,
Gyda gwaradwydd hwy a darawsant fy nghernau,
Cwbl-ymgasglasant ynghŷd yn fy erbyn.
11Efe a’m rhoddes fel carcharor i awdurdod y drygionus,
Ac i ddwylaw ’r annuwiolion y’m taflodd.
12Mewn hawddfyd yr oeddwn ac Efe a’m llwyr-ddrylliodd,
Ac a ymaflodd yn fy ngwddf ac a’m chwilfriwiodd,
Ac a’m cododd yn nôd iddo Ei hun;
13Amgylchodd Ei saethau Ef fi,
Holltodd fy arennau ac nid arbedodd,
Tywalltodd fy mustl ar y ddaear.
14 # 16:14 fel castell yn cael ei ddryllio gan elynion. Efe a’m rhwygodd â rhwygiad ar rwygiad,
Rhedodd arnaf fel gwron.
15Sachlïain a wnïais i ar fy nghroen,
# 16:15 =taenellais fy mhen â lludw. A dodais fy nghorn yn y llwch;
16Fy ngwyneb sydd wedi ei ennynu gan wylo,
# 16:16 Efe a aethai o’r bron yn dywyll gan wylo. Ac ar fy amrantau tywyllwch angeuaidd (sydd);
17Er nad oedd #16:17 y pethau uchod a wnaethid gan yr edifeiriol am bechod.anghyfiawnder yn fy nwylaw,
A bod fy ngweddi yn ddihalog.
18O ddaear, na orchuddia fy #16:18 gwaedded ef am ddial, ac nac attalier y waedd hon mewn un man.ngwaed,
Ac na fydded lle i’m gwaedd!
19Hefyd yn awr, wele, yn y Nefoedd y mae fy Nhyst,
A’m Tystiwr yn yr uchelder:
20Gwawdwŷr i mi (yw) fy nghyfeillion;
Wrth Dduw y difera fy llygaid (ddagrau,)
21Am i (un) ymddadleu dros #16:21 sef, Iöb ei hunwr gyda Duw,
A (thros fab) daearolyn yn erbyn ei gyfaill;
22Canys ychydig flynyddoedd a ddeuant,
A llwybr, na ddychwelaf (ar hyd-ddo,) a rodiaf fi;

Tans Gekies:

Iöb 16: CTB

Kleurmerk

Deel

Kopieer

None

Wil jy jou kleurmerke oor al jou toestelle gestoor hê? Teken in of teken aan