1
Ioan 19:30
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
Yna, wedi iddo gymryd y gwin, dywedodd Iesu, “Gorffennwyd.” Gwyrodd ei ben, a rhoi i fyny ei ysbryd.
Vergelyk
Verken Ioan 19:30
2
Ioan 19:28
Ar ôl hyn yr oedd Iesu'n gwybod bod pob peth bellach wedi ei orffen, ac er mwyn i'r Ysgrythur gael ei chyflawni dywedodd, “Y mae arnaf syched.”
Verken Ioan 19:28
3
Ioan 19:26-27
Pan welodd Iesu ei fam, felly, a'r disgybl yr oedd yn ei garu yn sefyll yn ei hymyl, meddai wrth ei fam, “Wraig, dyma dy fab di.” Yna dywedodd wrth y disgybl, “Dyma dy fam di.” Ac o'r awr honno, cymerodd y disgybl hi i mewn i'w gartref.
Verken Ioan 19:26-27
4
Ioan 19:33-34
Ond pan ddaethant at Iesu a gweld ei fod ef eisoes yn farw, ni thorasant ei goesau. Ond fe drywanodd un o'r milwyr ei ystlys ef â phicell, ac ar unwaith dyma waed a dŵr yn llifo allan.
Verken Ioan 19:33-34
5
Ioan 19:36-37
Digwyddodd hyn er mwyn i'r Ysgrythur gael ei chyflawni: “Ni thorrir asgwrn ohono.” Ac y mae'r Ysgrythur hefyd yn dweud mewn lle arall: “Edrychant ar yr hwn a drywanwyd ganddynt.”
Verken Ioan 19:36-37
6
Ioan 19:17
Ac aeth allan, gan gario'i groes ei hun, i'r man a elwir Lle Penglog (yn iaith yr Iddewon fe'i gelwir Golgotha).
Verken Ioan 19:17
7
Ioan 19:2
A phlethodd y milwyr goron o ddrain a'i gosod ar ei ben ef, a rhoi mantell borffor amdano.
Verken Ioan 19:2
Tuisblad
Bybel
Leesplanne
Video's