Gewilde Bybelverse vanaf Salmau 19

Fy myfyrdodau a’m geiriau fo Yn wastad ar bob awr, Yn gymmeradwy ger dy fron, Fy Nghraig a’m Prynwr mawr. NODIADAU. Y mae hon bob amser wedi bod yn hoff salm darllenwyr yr Ysgrythyrau — yn un o’r rhai a ddysgir ac a adroddir gan ieuengctyd yr Ysgolion Sabbathol yn bur gyffredin; ac y mae yn ei chyfansoddiad, o ran ei symledd a’i phrydferthwch, megys wedi ei bwriadu i’w dysgu felly. Ei mater ydyw, gweithredoedd dwylaw, ac ymadroddion genau Duw; neu y ddau lyfr, fel yr arferwn ddywedyd — llyfr natur, a llyfr gras: neu y ddau fodd y mae Duw yn dadguddio ei hun i ddynion; sef, ei greadigaeth a’i ragluniaeth, a’i air. Amlyga yn y cyntaf fawredd anfeidrol ei allu a’i ddoethineb — ei briodoliaethau naturiol; ac yn yr ail, ei gyflawnder, ei ras, â’i ewyllys da — ei briodoleddau moesol. Dadguddia y blaenaf ei fawredd — anweledig bethau Duw — ei dragywyddol allu a’i Dduwdod, drwy weledig bethau, heb iaith nac ymadrodd; a’r ail, ei nodwedd moesol, drwy iaith ac ymadrodd. Buasai dadguddiad y cyntaf yn unig, fe ddichon, yn ddigonol i ddyn, fel creadur dieuog a glân, i’w gymmhell i addoli a gogoneddu Duw; ond nid oes ynddo ddim i gyfarfod â’i drueni a’i angen fel pechadur. Cyflenwi yr angen hwn yw amcan mawr yr ail — “Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid.” Helaethir llawer yn y salm er dangos rhagorol werth ac ardderchawgrwydd y gair ysgrifenedig, fel y mae yn “berffaith — yn troi’r enaid,” “yn sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth;” “yn uniawn — yn llawenhau y galon;” “yn bur — yn goleuo y llygaid;” “yn lân — yn parhau yn dragywydd;” “yn wirionedd, ac yn gyfiawn i gyd;” “yn felusach na dyferiad y diliau mêl;” ac “yn werthfawrocach nag aur coeth lawer;” yn rhybuddiwr a chyfarwyddwr bywyd i ddyn ar ei daith trwy y byd hwn. Gweddïa y Salmydd ar y diwedd ar fod iddo gael ei sancteiddio yn ngwirionedd y gair, a’i ddysgu i feddwl a gwneuthur yn ei ol. Ar ba dymmor o’i fywyd y cyfansoddodd Dafydd y gân felus hon, rhy anhawdd penderfynu i sicrwydd: ond tybiwn i, mai pan oedd yn ieuangc, yn bugeilio defaid ei dad, wedi iddo gael ei eneinio yn frenin i Israel, a chyn iddo ddyfod i afael profedigaethau bywyd; ac iddo, ar ol dyfod i’r orsedd, ei chyflwyno i’r pencerdd i’w chanu yn y cyssegr.

Gratis leesplanne en oordenkings oor Salmau 19