Dangosi i mi’r ffordd o’r bedd,
I’r bywyd o drag’wyddol hedd,
Lle mae rhyw ddigllonrwydd llawn,
O bob digrifwch melus iawn,
Ar dy ddeheulaw i’w fwynhau,
Ac yn dragywydd i barhau:
Ar ol y gauaf du fe ddaw
Diddiwedd haf yr ochr draw.
NODIADAU.
Salm Fessianaidd yw hon: efe ei hun, drwy ei Ysbryd, yn ngenau Dafydd, sydd yn ei llefaru. Y mae rhai ymadroddion yn ei dechreu yn briodol i Dafydd, ac i bob Cristion, i’w defnyddio; ond nid oes dim ynddynt y byddai yn ammhriodol eu cyfrif i’r Messïah yn ei ystad o ddarostyngiad. Os ydyw Dafydd yma o gwbl ar ddechreu y salm, y mae efe yn fuan megys yn diflanu o’r golwg: ac, fel ar fynydd y gweddnewidiad, ar ol ymadawiad Moses ac Elias, na welai y dysgyblion “neb ond yr Iesu yn unig;” felly yma, tawa ac ymgilia Dafydd — ac ni welir neb ond y Messïah ei hun. Y mae yr ymadroddion yn gyfryw nad ydynt gymmhwys i neb ond iddo ef. Llefara yma wrth y Tad, fel yr oedd efe yn was iddo, ac yn anfonedig ganddo, gan draethu ei hyder ynddo am ei gymmhorth i gyflawni, a’i gymmeradwyaeth o waith ei gyfryngdod. Llefara yn benaf fel offeiriad y drefn gyfryngol, ac am y wobr addawedig iddo am waith ei offeiriadaeth. Fel nad oedd i’r offeiriaid Lefiaidd dan y gyfraith ran na meddiant yn nhir Gwlad Canaan — “Canys yr Arglwydd ei hun oedd eu rhan a’u hetifeddiaeth hwy,” fel y dywed efe wrthynt, ac am danynt — felly dywed yr Offeiriad mawr yma, mai Iehofah yn unig oedd ei ran a’i etifeddiaeth ef, a’r wobr a addawsai efe iddo; sef, ei had — ei saint, “y rhai rhagorol;” “yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch,” medd efe. Traetha yma lawn foddlonrwydd ei enaid yn yr etifeddiaeth deg, y disgynasai llinynau yr arfaeth dragywyddol ar ei thiroedd i’w mesur iddo; ac efe a ddengys i bawb yn holl lywodraeth Iehofah ddydd a ddaw, “beth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint,” pan ddel efe i’w ogoneddu, ac i fod yn rhyfeddol ynddynt. Yn olaf, y mae efe yn edrych trwy dywyllwch dudew ei ddioddefiadau a’i farwolaeth ar oleuni boreu y trydydd dydd:— “Na adewid ei enaid yn uffern (h. y., yn y byd anweledig), ac na oddefid i’w gorph weled llygredigaeth” yn y bedd; yr hyn a welodd corph pob un arall a aeth iddo erioed, ac a wel pob un a ä iddo etto — y “dangosai y Tad iddo lwybr bywyd” o fro llygredigaeth, cyn i lygredigaeth ymaflyd ynddo, ac y dyrchefid ef i fwynhâd o’r digrifwch tragywyddol oedd iddo ar ei ddeheulaw. Defnyddia yr apostolion Pedr a Phaul yr ymadroddion sydd yn y gyfran olaf o’r salm hon fel prophwydoliaeth bennodol am adgyfodiad Crist o’r bedd foreu y trydydd dydd, a’i esgyniad i’w ogoniant yn y nefoedd — ymadroddion nad ydynt yn briodol i nac am neb arall, ond ef yn unig: Act . iii. 25-31, a xiii. 35-37.