Luc 14

14
PEN. XIIII.
Crist wrth giniawa gyd â Pharisæad yn iachau vn claf o’r dropsi ar y dydd Sabboth. 8 yn dyscu i ni fod yn ostyngedig a dangos ein haelioni ar y tlodion, 15 ar ddammeg y swpper yn dangos gwrthodiad yr Iddewon a galwedigaeth y cenhedloedd, ac yn gosod allan gyflwr ei ddiscyblion yr rhai ydynt halen y ddaiar.
1 # 14.1-11 ☞ Yr Efengyl y xvii. Sul wedi ’r Drindod. Bu hefyd pan ddaeth efe i dŷ vn o’r Pharisæaid pennaf ar y Sabboth i fwytta bwyd: ddisgwil o honynt ef.
2Ac wele, ’r oedd ger ei fron ef ryw ddŷn yn glaf o’r dropsi.
3A’r Iesu gan atteb a lefarodd wrth y cyfraithwyr a’r Pharisæaid, gan ddywedyd: ai rhydd iachau ar y dydd Sabboth?
4A thewi a wnaethant: yna y cymmerth efe [y claf,] ac a’i iachaodd ef, ac a’i gollyngodd ymmaith.
5Ac a’i attebodd hwynt gan ddywedyd: pwy honoch os syrth ai asyn neu ei ŷch mewn pwll, ni thynn ef allan ar y dydd Sabboth?
6Ac ni allent roi atteb yn ei erbyn ef am y pethau hyn.
7Ac efe a ddywedodd ddammeg i’r gwahaddedigion, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd vchaf, gan ddywedyd wrthynt:
8Pan i’th wahodder gan nêb i neithior, nac eistedd yn y lle vchaf, rhag bôd vn anrhydeddusach nâ thi wedi ei wahodd ganddo,
9Ac i hwn a’th wahoddodd di, ac yntef ddyfod, a dywedyd wrthit, dôd le i hwn, ac yna dechreu o honot ti trwy gywilydd, gymmeryd y lle isaf.
10 # Dihareb.25.5. Eithr pan i’th wahodder, dôs ac eistedd yn y lle isaf, fel pan ddelo yr hwn a’th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthit, ô gyfaill eistedd yn vwch i fynu: yna y bydd i ti glôd yng-ŵydd y rhai a eisteddant gŷd â thi ar y bwrdd.
11 # Pen.18.14. Canys y neb ai derchafo ei hun, a ostyngir: a’r neb ai gostyngo ei hun a dderchefir.
12Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn ai gwahaddase ef: * pan wnelech ginio neu swper, na alw dy gyfeillion na’th frodyr, na’th geraint, na’th gymydogion goludog, rhag iddynt eilchwel dy wahodd dithe, a thalu i ti:
13Eithr pan wnelech wledd galw’r tlodion, a’r efryddion, a’r cloffion, a’r deillion.#Tob.4.7. Dihar.3.9.
14A gwyn dy fŷd, am na allant dalu’r pwyth i ti: canys fe a delir i ti yn adgyfodiad y rhai cyfiawn.
15A phan glywodd rhyw vn o’r rhai oedd yn eistedd, y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, gwyn ei fŷd y neb a fwyttao fwyd yn nheyrnas Dduw.
16Ac yntef a ddywedodd wrtho, #Math.22.2. Gwele.19.9.#14.16-24 ☞ Yr Efengyl yr ail Sul wedi ’r Drindod.Rhyw ŵr a wnaeth swpper mawr, ac a wahoddodd lawer.
17Ac a ddanfonodd ei wâs brŷd swpper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, deuwch, canys yr awr hon y mae pôb peth yn barod.
18A hwy oll a ddechreuasant ymescusodi: y cyntaf a ddywedodd wrtho, mi a brynais dyddyn, ac y mae yn rhaid i mi fyned iw weled, attolwg i ti escusoda fi.
19Ac arall a ddywedodd, mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf i yn myned iw profi hwynt, attolwg i ti escusoda fi.
20Ac arall a ddywedodd, mi a briodais wraig, ac am hynny ni allaf i ddyfod.
21A’r gwâs pan ddaeth [adref] a ddangosodd y pethau hyn iw arglwydd, yna gŵr y tŷ yn ddigllon a ddywedodd wrth ei wâs: dôs allan ar frys i’r heolydd, ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn ymma y tlodion, a’r anafus, a’r cloffion, a’r deillion.
22A’r gwâs a ddywedodd, arglwydd fe a ddarfu gwneuthyd fel y gorchymynnaist, ac etto y mae lle.
23A’r Arglwydd a ddywedodd wrth y gwâs, dôs i’r priffyrdd, a’r caeau a chymmell hwynt i ddyfod i mewn, fel y cyflawner fy nhŷ.
24Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr vn o’r gwŷr hynny a wahoddwyd brofi o’m swpper i.
25A llawer o bobl a gŷd gerddodd ag ef, ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt.
26 # Math.16.24. Os daw nêb attafi, ac ni chasao ei dâd, a’i fam, a’i wraig, a’i blant, a’i frodyr, a’i chwiorydd, îe, a’i enaid ei hun hefyd, ni all efe fôd yn ddiscybl i mi.
27A phwy bynnag ni ddycco ei groes, a’m canlyn i, ni all efe fôd yn ddiscybl i mi.
28Canys pwy o honoch chwi a’i frŷd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw’r draul [i edrych] a oes ddigō ganddo iw orphen,
29Rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orphen, ddechreu o bawb ar a’i gwelant, ei watwar ef,
30Gan ddywedyd, y dŷn hwn a ddechreuodd adailadu, ac ni allodd ei orphen.
31Neu pa frenin yn myned i ryfela yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â’r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag vgain mil?
32Neu tra fyddo efe ym mhell oddi wrtho, efe a ddēfyn genadŵr, ac a ddeisyf gael heddwch
33Felly hefyd, pwy bynnac o honoch nid ymwrthodo a chymmaint oll ac a feddo efe, ni all fôd yn ddiscybl i mi.
34 # Math.5.13. Marc.9.50. Da yw halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef?
35Nid yw efe gymmwys nac i’r tîr, nac i’r dommen, onid iw fwrw allan: y nêb sydd iddo glustiau i wrando gwrandawed.

Okuqokiwe okwamanje:

Luc 14: BWMG1588

Qhakambisa

Dlulisela

Kopisha

None

Ufuna ukuthi okuvelele kwakho kugcinwe kuwo wonke amadivayisi akho? Bhalisa noma ngena ngemvume