Luc 12
12
PEN. XII.
Crist yn gwahardd rhagrith y Pharisæaid. 4 A gofalu am y corph yn fwy nâ’r enaid, 13 Yn gwrthod rhannu tîr. 22 Yn gwahardd gormod gofal, 33 Yn cynghori fod yn elusengar, 35 Yn wiliadwrus, 49 Yn ddioddefgar, 54 Yn adnabod amser iechydwriaeth, 58 Ac yn gytun.
1YN y cyfamser pan ymgasclodd yng-hyd liaws aneirif o bobl, hyd oni ymsathre’r naill y llall, y ddechreuodd efe ddywedyd wrth ei ddiscyblion, yn gyntaf, #Math.16.6. marc.8.14.mogelwch rhag surdoes y Pharisæaid, yr hwn yw rhagrith.
2Canys #Math.10.26. marc.4.22.|MRK 4:22. luc.8.17.nid oes dim cuddiedig a’r nas dadcuddir, na dim dirgel a’r na’s gŵybyddir.
3Am hynny y pethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch a glywir yn y goleu, a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn lleoedd dirgel a bregethir ar benneu’r tai.
4 #
Math.10.28. Yr wyf yn dywedyd wrthych fyng-hyfeillion: nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corph, ac wedi hynny nid oes ganddynt ddim a wnelant mwy.
5Rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch, ofnwch ef, yr hwn, pan ddarffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i vffern: yn ddiau meddaf i chwi, ofnwch hwnnw.
6Oni #Math.10.29.phrynir pump o adar y tô er dwy hatling? ac etto nid oes vn o honynt mewn angof ger bron Duw.
7Hefyd y mae blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll, am hynny nac ofnwch, yr ydych chwi yn well nâ llawer o adar y tô.
8 #
Math.10.32. luc.9.26.|LUK 9:26. 2.tim.1.12. Ac meddaf i chwi, pwy bynnag a’m cydnabyddo i ger bron dynion: Mab y dŷn a’i cydnebydd yntef ger bron angelion Duw.
9A’r hwn a’m gwado i ger bron dynion, a wedir ger bron angelion Duw.
10A #Math.12.31. marc.3.28.|MRK 3:20. 1.Ioan.5.18. phwy bynnag a ddywed air yn erbyn Mab y dŷn, fe a faddeuir iddo: eithr i’r neb a gablo’r Yspryd glân ni faddeuir.
11A phan #Math.10.19. marc.13.12i’ch dygant i’r synagogau, ger bron llywiawdwŷr a gwŷr mewn awdurdod, na ofelwch pa fodd, neu beth a atteboch drosoch, neu beth a ddywedoch:
12Canys yr Yspryd glân a’ch dysc chwi yn yr awr honno, beth sydd raid ei ddywedyd.
13Rhyw vn o’r dyrfa a ddywedodd wrtho: Athro, dywet wrth fy mrawd am rannu â myfi’r etifeddiaeth.
14Yntef a ddywedodd wrtho, y dŷn, pwy a’m gwnaeth i yn farn-wr neu yn rhann-wr arnoch?
15Am hynny y dywedodd efe wrthynt, edrychwch a mogelwch rhac cybydd-dod, canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau ydynt ganddo.
16Ac efe a draethodd wrthynt ddammeg gā ddywedyd, tîr rhyw ŵr goludog fu ffrwythlon:
17Am hynny yr ymresymme efe ynddo ei hun, gan ddywedyd, beth a wnaf am nad oes gennif le i gasclu fy ffrwythau iddo?
18Ac efe a ddywedodd, hyn a wnaf: mi a dynnaf i lawr fy yscuboriau, ac a adeiladaf rai mwy, ac yno y casclaf fy holl ffrwythau da:
19Ac mi a ddywedaf wrth fy enaid, ô enaid y mae i ti dda lawer wedi eu gosod [i gadw] tros lawer o flynyddoedd, gorphywysfa, bwytta, ŷf, bydd lawen.
20Eithr Duw a ddywedodd wrtho, ôh ynfyd: ac yna pwy piau y pethau a baratoaist?
21Felly y mae’r hwn a dryssoro iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag at Dduw.
22Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, am hynny yr wyf yn dywedyd wrthych, #Math.6.25. 1.pet.5.7.|1PE 5:7. psal.55.22. na chymmerwch ofal am eich bywyd, beth a fwyttaoch, neu am eich corph beth a wiscoch.
23Y bywyd sydd fwy nâ’r ymborth, a’r corph sydd fwy nâ’r dillad.
24Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau, ac nid ydynt yn medi, ac nid oes iddynt na chell, nac yscubor, ac y mae Duw yn eu porthi hwynt, pa feint yr ydych chwi well nâ’r adar?
25Pwy o honoch trwy ddirfawr ofalu, a ddichon chwanegu at ei faintioli vn cufydd?
26Am hynny oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, pa ham yr ydych yn gofalu am y lleill?
27Ystyriwch y lili y modd y maent yn tyfu, nid ydynt yn poeni, nac yn nyddu, ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, na bu Salomon yn ei holl ogoniant, wedi ei ddilladu fel vn o’r rhai hyn.
28Os yw Duw felly yn gwisco y llysieun yr hwn sydd heddyw yn y maes, ac y foru a deflir i’r ffwrn, pa faint mwy chwy-chwi, ô rai o bychan eich ffydd?
29Am hynny nac ymofynnwch, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch, ac nac amheuwch.
30Canys y mae cenhedloedd y byd yn ceisio hyn oll, ac y mae eich Tad chwi yn gŵybod fôd arnoch eisieu’r pethau hyn.
31Eithr yn hytrach, cesiwch deyrnas Dduw, a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg.
32Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas.
33 #
Math.6.22. Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen, gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiāt, tryssor yn y nefoedd yr hwn ni dderfydd: lle ni ddaw lleidr, ac ni lygra pryf.
34Canys lle y mae eich tryssor chwi, yno y bydd eich calon.
35Byded #1.pet.1.13.eich lwynau wedi eu gwregysu, a’ch canhwyllau yn oleu:
36A byddwch debyg i ddynion yn disgwil pa bryd y daw eu harglwydd o’r neithior: megis pan ddelo efe a churo[’r drws,] yr agoront iddo yn ebrwydd.
37Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd pan ddel yn neffro, yn wir meddaf i chwi: efe a ym-wregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy.
38Ac os daw efe ar yr ail wylfa, neu os y drydedd wylfa y daw, a’i cael hwynt felly, gwyn eu byd y gweision hynny.
39A hyn gwybyddwch, pe * gwype gŵr y tŷ, pa awr y deue’r lleidr, efe a wilie, ac ni adawe gloddio iw dŷ.#Math.24.43. gwel.16.15.
40Am hynny byddwch chwithau barod, canys yr awr ni thybygoch y daw Mab y dŷn.
41Yna y dywedodd Petr wrtho, ô Arglwydd, ai i ni yr wyt yn dywedyd y ddammeg hon, ynte i bawb?
42A’r Arglwydd a ddywedodd, pwy sydd orchwiliwr ffyddlawn, a phwyllog, yr hwn y gesyd ei arglwydd ef ar ei deulu i roddi iddynt eu cyflynniaeth yn ei amser?
43Gwyn ei fyd y gwâs hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef pā ddel yn gwneuthur felly.
44Yn wir meddaf i chwi, efe a esyd hwnnw [yn llywodraethwr] ar gwbl ac sydd eiddo.
45Eithr os dywed y gwâs hwnnw yn ei galon, fy arglwydd a oeda ddyfod, ac felly a ddechreu guro y gweision, a’r morwynion, a bwytta, ac yfed, a meddwi:
46Daw arglwydd y gwâs hwnnw, mewn dydd nad yw efe yn meddwl, ac ar awr nid yw efe yn gŵybod, ac a’i tyrr ef ymmaith, ac a ddyru iddo ei rann gyd â’r anffyddloniaid.
47Y gwâs hwnnw yr hwn a ŵybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratodd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a gurir â llawer [ffonnod]:
48Eithr yr hwn ni ŵybu, ac a wnaeth bethau yn heuddu ffonnodiau, a gurir ag ychydig [ffonnodiau:] yn enwedig i bwy bynnag y rhodded llawer, llawer a ofynnir ganddo: a chyd â phwy bynnag y gadawsant lawer, yn ceisiant fwy ganddo.
49Mi a ddaethym i yrru tân ar hŷd y ddaiar, a pheth a fynnaf i, od yw efe wedi cynneu eusys?
50Eithr y mae i mi fedydd i’m bedyddio ag ef: ac mor flin yw arnaf nes darfod.
51 #
Math.10.34. A ydych chwi yn tybied fy nyfod i i roddi heddwch ar y ddaiar? na ddo meddaf i chwi ond ymrafael.
52Canys o hynn allan y bydd pump yn yr vn tŷ, wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri.
53Y tâd a ymranna yn erbyn y mâb, a’r mâb yn erbyn y tâd: y fam yn erbyn y ferch, a’r ferch yn erbyn y fam: y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a’r waudd yn erbyn ei chwegr.
54Yna efe a #Math.16.2.ddywedodd wrth y dyrfa, pan weloch gwmwl yn codi o’r gorllewin, yn y fan y dywedwch, y mae cafod yn dyfod, ac felly y mae.
55A phan weloch y deheuwynt yn chwythu, y dywedwch y bydd hi gwresoc, a hi a fydd.
56Oh ragrithwŷr, medrwch farnu wyneb-pryd y ddaiar a’r wybr: a pha ham nad ydych yn deall y cyfamser hwn?
57Pa ham nad ydych o honoch eich hunain yn barnu beth sydd gyfiawn?
58 #
Math.5.25. Pan fyddwch yn myned gyd â’th wrthwynebwr at bennaeth, gwna dy oref ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho, rhac iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y rhingill, ac i’r rhingill dy fwrw i’r carchar.
59Yr wyf yn dywedyd i ti, nad ai di ymmaith oddi yno, oni thelech yr hatling eithaf.
Okuqokiwe okwamanje:
Luc 12: BWMG1588
Qhakambisa
Dlulisela
Kopisha
Ufuna ukuthi okuvelele kwakho kugcinwe kuwo wonke amadivayisi akho? Bhalisa noma ngena ngemvume
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.