Lyfr y Psalmau 2
2
1Paham y cyffry dynion byd?
Pa’m mae eu bryd yn ddigllon?
Pa’m y myfyriant, yn lle hedd,
Oferedd yn eu calon?
2Ymosod mae brenhinoedd mawr
Y ddaear lawr a’i gwledydd;
A’r doeth bennaethiaid yno ’nghyd
Mewn cyngor dwys‐fryd beunydd.
“Yn erbyn Duw a’i Grist mewn brad,”
Meddant, “yn gad ymgodwn;
3Drylliwn eu rhwymau oll yn glau,
A’u caled iau a dorrwn.”
4Yr Hwn a breswyl yn y nen
A chwardd am ben eu cyngor;
Rhag mor dra ffol ac ofer yw,
Yr Arglwydd Dduw a’i gwatwor.
5Wrthynt mewn llid llefara ’r Tad
Am eu cyd‐fwriad cyndyn;
A’r Hwn yn nef y nef a drig
Drwy ddirfawr ddig a’u dychryn. —
6“Minnau, gosodais, er eich brad,
Fy Mrenhin mad yn Llywydd
Yn Sïon dawel ar fy mhraidd,
Sef yn fy sanctaidd fynydd.”
7“Hon ydyw’r ddeddf a’r llw a wnaf,”
Medd wrthyf Naf y nefoedd;
“Mi heddyw a’th genhedlais Di,
Fy Mab wyt Ti ’n oes oesoedd.
8“Gofyn, a rhoddaf it’ ynghyd
Genhedloedd byd yn deyrnas;
Dy helaeth etifeddiaeth fawr
Yw ’r ddaear lawr a’i chwmpas.
9“Tydi a’u drylli hwynt mewn barn
A gwialen haiarn gospol;
Maluri hwynt yn llwyr fel hyn,
Fel llestryn priddyn breuol.”
10Gan hynny ’n awr, frenhinoedd byd,
Byddwch i gyd yn ddoethion;
Barnwŷr y ddaear yn eu mysg,
Derbyniwch addysg weithion.
11Mewn ofn yn weision i Dduw de’wch,
Ymlawenhêwch mewn dychryn;
12Ei Fab cusenwch, rhag i’w dân
O’r ffordd eich difa ’n sydyn.
Mor enbyd yw llidiowgrwydd Naf,
Pan leiaf yr ennyno!
Gwyn fyd y dyn a roddo’i gred
A’i holl ymddiried ynddo.
Okuqokiwe okwamanje:
Lyfr y Psalmau 2: SC1850
Qhakambisa
Dlulisela
Kopisha
Ufuna ukuthi okuvelele kwakho kugcinwe kuwo wonke amadivayisi akho? Bhalisa noma ngena ngemvume
Y Psallwyr gan y Parch. Morris Williams (Nicander). Cyhoeddwyd gan H. Hughes, Llundain 1850. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.