Lyfr y Psalmau 2:2-3

Lyfr y Psalmau 2:2-3 SC1850

Ymosod mae brenhinoedd mawr Y ddaear lawr a’i gwledydd; A’r doeth bennaethiaid yno ’nghyd Mewn cyngor dwys‐fryd beunydd. “Yn erbyn Duw a’i Grist mewn brad,” Meddant, “yn gad ymgodwn; Drylliwn eu rhwymau oll yn glau, A’u caled iau a dorrwn.”