Iöb 10

10
X.
1Ffieiddio fy mywyd y mae fy enaid,
Gollyngaf fy nghwyn arnaf fy hun,
Llefaraf yn chwerwder fy enaid:
2Dywedaf wrth Dduw, “Na farn fi yn euog,
Gwna i mi wybod pa ham yr amrafaeli â mi:
3Ai da gennyt orthrymmu,
Diystyru llafur Dy ddwylaw,
Ac ar gynghor yr annuwiolion daenu llewyrch?
4 # 10:4 llygaid dynawl, i allu camgymmeryd dyn da am ddyn drwg Ai llygaid cnawd (sydd) gennyt Ti?
(Ac) fel y gwel adyn yr wyt Ti yn gweled?
5Ai #10:5 fel na alli oedi cospedigaeth.fel dyddiau adyn Dy ddyddiau Di,
A’th flynyddoedd Di fel dyddiau gwr,
6Fel y chwili am fy anwiredd,
Ac am fy mhechod ymofyn,
7Er gwybod o honot nad wyf yn euog,
Ac (er) nad oes a waredo o’th law Di?
8Dy ddwylaw Di a ddyfal-lafuriasant arnaf,
Ac a’m gwnaethant i gyd o bob tu, — ac yr wyt yn fy nifetha;
9 # 10:9 manylrwydd y gwaith wrth ei lunio. Cofia, attolwg, mai fel (ped fuaswn) glai y gwnaethost fi,
Ac i’r pridd y’m dychweli:
10 # 10:10 pan yn y groth Onid fel llaeth y’m tywelltaist,
Ac fel maidd y’m ceulaist?
11A chroen ac â chnawd y gwisgaist fi,
Ag esgyrn ac â giau yr amgaeaist fi:
12 # 10:12 ar ol ei eni Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi,
A’th ymgeledd a gadwodd fy yspryd.
13Ond hyn Ti a guddiaist yn Dy galon,
Gwn (fod) hyn gyda Thi,
14(Sef) os pechwn y gwylit am danaf,
Ac oddi wrth fy anwiredd na ’m gollyngit yn rhydd,
15Os euog a fyddwn gwae fyddai i mi,
Os yn gyfiawn na chodwn fy mhen
Gan fod yn orlawn o warth, ac yn gweled fy ngostyngiad,
16Ac os ymdderchafai, fel llew y’m helit,
Ac y dychwelit Dy ryfeddodau arnaf,
17Yr adnewyddit Dy #10:17 sef, trallodaudystion i’m herbyn,
Ac yr amlhäit Dy ddigllonedd arnaf,
Lluoedd yn olynol i’m herbyn.
18Pa ham, gan hyny, y dygaist fi allan o’r groth?
Ped fuaswn marw, a llygad ni ’m gwelsai,
19Yna y buaswn megis pe na buaswn,
O’r bru i’r bedd y’m dygasid.”
20Onid ychydig fy nyddiau? — peidied Ef!
Symmuded Ei law oddi arnaf fel yr ymsiriolwyf ychydig
21Cyn myned o honof, ac heb ddychweliad i mi,
I dir tywyllwch a chysgod angeuaidd,
22Tir caddug fel y fagddu,
(Tir) cysgod angeuaidd ac heb drefn,
Disgleirio a wna efe fel y fagddu!

Okuqokiwe okwamanje:

Iöb 10: CTB

Qhakambisa

Dlulisela

Kopisha

None

Ufuna ukuthi okuvelele kwakho kugcinwe kuwo wonke amadivayisi akho? Bhalisa noma ngena ngemvume