Marc 9:42-50
Marc 9:42-50 DAFIS
“Os bydd unryw un in hala i un o'r rhei bach ma sy'n credu inda i i bechu, bidde'n well 'ddo fe os bise fe wedi câl i dowlu miwn i'r môr â carreg falu wedi'i glwmu rownd i wddwg e. Os ma di law di in hala i ti bechu, torra hi bant. Ma‐i'n well i ti find miwn i fowyd wedi câl dolur, na mynd â dwy law da ti miwn i dân uffern sy'n llosgi am byth, (lle ma'r mwydyn in u bita nhwy am byth a ma'r tân in llosgi am byth.). Os ma di drwed di'n hala ti i bechu, torra hi bant. Ma‐i'n well mind miwn i fowyd in hercan, na câl di dowlu da dwy drwed miwn i dân uffern, (lle ma'r mwydyn in u bita nhwy am byth a ma'r tân in llosgi am byth.). Os ma di ligad di in hala ti i bechu, tynn e mas. Ma‐i'n lot gwell mind miwn i Deyrnas Duw 'da un lligad, na câl di dowlu â dou ligad miwn i dân uffern, lle ma'r mwydyn in u bita nhwy am byth a'r tân in llosgi am byth. Fe geith bob un i halltu 'da tân. Ma halen in gwd thing; ond os collith‐e'i flas, shwt allwch chi gâl i flas e nôl? Biddwch â halen indoch chi'ch hunen, a wedyn fe fiddwch in gitûn dach gily.”