YouVersion 標識
搜索圖示

Mathew 28

28
1-10Wedi'r saboth, fel we dydd cinta'r wsnoth in dachre, âth Mair o Magadala a'r Mair arall i weld i twm. A'n sidan we deargryn mowr; achos dath ange ir Arglwi, in dwâd lawr o'r nefodd, a simud i garreg nôl a ishte arni. We'r angel in drich fel gole, a we'i ddillad e'n wyn fel ir eria. Achos 'u bo nhwy wedi câl i ofon e fe gafodd i gârds shigwdad a pango fel dinion marw. Ond gwedodd ir angel wrth i menwod, “Peidwch câl ofon; dwi'n gwbod 'ich bo'ch chi'n drich am Iesu a gas 'i groeshoelo. Seno fe 'ma; achos mae e wedi câl i godi, fel wedodd e bise'n digwydd. Dewch, drichwch ar lle wedd e'n gorwe. Wedyn cerwch in golu i weu'th 'i ddisgiblion, “Mae e wedi câl i godi o farw, a mae e'n mynd o'ch blân chi i Galilea; fan'na welwch chi e.’ 'Na beth sy 'da fi weu'thoch chi.” So ethon nhwy o'r twm in glou mewn ofon ond in llawen iawn, a rhedeg a gweu'th i disgiblion. In sidan 'co Iesu'n cwrdd â nhwy a gweud, “Shw ma'i!” A dethon nhwy ato fe, gafel in i drad e, a'i addoli e. Wedyn wedodd Iesu wrthyn nhwy, “Peidwch câl ofon; cerwch i weud wrth in frodyr i i fynd i Galilea; cewn nhwy in weld i fan'na.”
11-15Fel wen nhwy'n mynd, âth rhei'r o'r gârd miwn i'r ddinas a gweu'th i pen-ffeiradon bopeth we wedi digwydd. Wedi i'r ffeiradon a'r heneduried ddwâd at 'i gily, nethon nhwy feddwl am ffordd o roi lot o arian i'r sowldwrs, a gweu'thyn nhwy, “Rhaid ichi weud, 'Dâth i rhei we'n 'i ddilyn wedi'ddi nosi a'i ddwgid e pan wen ni'n cisgu.’ Achos os cliwith i gwfner am hyn, bydd hyn in ddigon i gau 'i ben e, a'n cadw ni mas o drwbwl”. So cwrmon nhwy'r arian a neud fel gethon nwy ordors i neud. A ma rhei in gweud i stori hon in plith ir Iddewon hys i dydd heddi.
16-20Nawr, fe âth ir un disgibil a'r ddeg i Galilea, i'r mini lle we Iesu wedi gweud wrthyn nhwy fynd. Pan welon nhwy fe, fe addolon nhwy e; ond we rhei ddim in shŵr. A dâth Iesu a gweud wrthyn nhwy, “Ma pob hawl in i nefodd a ar i ddeiar wedi câl i roi i fi. Achos 'ny, cerwch chi a newch ddisgiblion o bob cenedl, a'u bediddio nhwy in enw'r Tad a'r Crwt a'r Isbryd Glân, a disgwch nhwy i rondo ar ir ordors dwi wedi rhoi ichi. A cofiwch hyn, bidda i 'da chi nes deith diwedd amser.”

目前選定:

Mathew 28: DAFIS

醒目顯示

分享

複製

None

想要在所有設備上保存你的醒目顯示嗎? 註冊或登入

YouVersion 使用 cookie 來個性化你的體驗。透過使用我們的網站,你即接受我們按照我們的 隱私政策所述來使用 cookie。