Galarnad Ieremia 4
4
PENNOD IV.
1Podd y llychwinir yr aur,#4:1 Neu, “Podd y caddugir yr aur.” Wrth yr aur a’r coethaur y meddylia eirianedd y deml. Yr oedd yn hynod o ran ei gwychder, amryw ranau o honi wedi ei goreuro. Ond yr oedd yn awr ei cheryg wedi eu taflu allan ac i’w gweled ar ben pob heol.
Y cyfnewidir y coethaur goreu!
Teflir allan geryg y sancteiddfan
Ymhen pob un o’r heolydd.
2Meibion gwerthfawr Sïon,
Cymharedig i aur pur,
Podd eu cyfrifir fel llestri pridd,
Gwaith dwylaw y crochenydd!#4:2 Meibion Sïon oedd ei thrigolion: cyffelyba y rhai’n i aur ac i aur pur; ond nid gwell eu cyfrifid yr amser hyn na phriddlestri.
3Hyd yn nod dreigiau, tynasant allan y fron,
Rhoisant sugn i’w cenawon;#4:3 Y gair “dreigiau” a ddaw oddiwrth dracontes, Groeg. Math o seirph a feddylir, y rhai a wnant drwst hwtiol dychanaidd, ac ydynt o’r rhyw mwyaf gwenwynllyd a gerwin, “Cenawon” yn briodol a berthynant i lewod; ond gelwir hil y seirph yma wrth yr un enw.
Merch fy mhobl a fu yn greulawn,
Fel yr estrysiaid yn yr anialwch.#4:3 Dywedir am yr estrys y gadawant eu hwyau wedi eu cuddio yn y tywod, heb ofalu dim mwy am danynt. Gwel Job 39:13, 14.
4Glynodd tafod y plentyn sugno
Wrth daflod ei enau gan syched;
Y plant, gofynasant fara,
Rhanydd, nid oedd iddynt.
5Y rhai a ymborthent ar ddanteithion
A ddifethwyd yn yr heolydd;
Y rhai a feithrinwyd ar ysgarlad,#4:5 Sef ar welyau neu eisteddfäon a amlenid âg ysgarlad. Yn lle gorwedd neu eistedd ar y fath leoedd, gorweddent ac eisteddent ar domenydd.
Cofleidiasant y tomenydd.
6A mwy a fu cosb merch fy mhobl
Na chosb pechod Sodom;
Yr hon a ddymchwelwyd mewn mynyd,
Ac ni flinwyd arni ddwylaw. #4:6 “Dwylaw” yma a arwydda ymdrechiadau, y cyfryw a wneir gan warchaewyr pan yn ymosod ar dref neu gaer i’r dyben i’w darostwng. Ni fu gwarchae blin ar Sodom, ond cadd ei difrodi megys mewn mynydyn.
7Purach oedd ei Nasareaid na’r eira,#4:7 Arwydda y gair “Nasareaid,” neillduedig. Neillduent eu hunain mewn modd arbenig i wasanaeth Duw. Er mwyn eu cadw rhag ofer grefydd, penodir yn neillduol yr hyn oeddent i wneuthur. Gwel Num. 6.
Gwynach na llaeth;
Gwridocach o gorff na rhuddenau,
Fel Saphir eu llyfnder:
8Duach na’r cyfnos yr aeth eu golwg,#4:8 Y gair am “gyfnos” a ddynoda lwyd afon fawr yr Aipht, a elwid “Sihor,” Ier. 2:18. Golwg dduaidd sydd ar ei dyfroodd: “Duach na Sihor yr aeth eu golwg.”
Nid adwaenid hwynt yn yr heolydd;
Glynodd eu croen wrth eu hesgyrn,
Gwywodd, aeth fel pren.
9Gwell oedd lladdedigion y cleddyf
Na lladdedigion y newyn;
Canys y rhai’n a ddyhoenent,
Yn drywanedig, heb gnwd y maes.#4:9 “Cnwd y maes” sydd yn gysylltiedig â “dyhoenant;” ac yr oeddynt “yn drywanedig” megys gan bicellau newyn.
10Dwylaw gwragedd tosturiol,
Berwasant eu plant;
Yr oeddent yn ymborth iddynt
Pan ddryllid merch fy mhobl.
11Cyflawnodd Iehofa ei angerdd,
Tywalltodd boethder ei ddigofaint;
Ië, cyneuodd dân yn Sïon,
A difäodd ei seiliau.
12Ni choeliasai breninoedd y ddaear,
Na holl drigolion y byd,
Y deuai gormesydd a gelyn
O fewn pyrth Ierusalem.
13O herwydd pechodau ei phrophwydi,
Ac anwireddau ei hoffeiriaid,
A dywalltent yn ei chanol hi
Waed y rhai cyfiawn, —
14Crwydrasant fel deillion yn yr heolydd;
Difwynid hwynt gan waed:
Pan nad allent lai,
Cyffyrddent â’u dillad;#4:14 Sef dillad y gau brophwydi a’r offeiriaid, y rhai y pryd hyn a welid gan y trigolion yn eu lliw eu hun; canfyddent mai hwy a barasent i r rhai cyfiawn gael eu lladd. Gochelent hwynt fel rhai wedi eu difwyno gan waed, a gwaeddent arnynt i ffoi ymaith.
15“Ewch ymaith,” “Aflendid,” a waeddent wrthynt;
“Ewch ymaith, ewch ymaith, na chyffyrddwch:”
Pan ffoisent, ie, y crwydrent,
Dywedasant ymysg y cenedloedd,
“Nid arosant mwy;#4:15 Hyny yw, yn Ierusalem. Pan welodd y cenedloedd ymddygiad y bobl tuag at yr offeiriaid a’r prophwydi oeddent wedi eu twyllo, casglent nad oeddent i drigo yno mwy.
16Wyneb Iehofa, eu rhan,
Nid edrych mwy arnynt;
Wyneb eu hoffeiriaid ni pharchant,
Wrth eu henafgwyr ni thosturiant.”
17Tra eto yr oeddem, treuliai ein llygaid
Am ein cynnorthwy;#4:17 Cyfeiria at eu siomiant tan eu gwarchae: treuliai eu llygaid wrth edrych am y cymhorth a addawasid iddynt gan yr Aiphtiaid.
Yn ofer trwy ddysgwyl y dysgwyliasom
Wrth genedl nad allai achub.
18Helasant ein camrau,
Fel nad allem rodio yn ein heolydd;
Nesäodd ein diwedd; cyflawnwyd ein dyddiau,
Canys daethai ein diwedd.
19Buanach oedd ein hymlidwyr
Nag eryrod yr awyr;
Ar y mynyddoedd erlidient ni,
Yn yr anialwch cynllwynent ni.
20Anadl ein ffroenau, eneiniog Iehofa,
Daliwyd ef yn eu rhwydau;
Yr hwn y dywedasom, tan ei gysgod,
Y byddem byw ymysg y cenedloedd.
21Gorfoledda a llawenhâ, ferch Edom,
A drigi yn ngwlad Us!#4:21 Gwawdiaith yw hon, fel y dengys y llinelli a ganlynant.
Atat ti hefyd y daw y cwpan,
Bydd feddw ac ymnoetha.
22Terfynwyd dy gosb di, ferch Sïon;
Ni chwanegir dy gaethgludo;
Ymwêl â’th anwiredd di, merch Edom,#4:22 Yn llythyrenol, “ymwelodd,” a “chaethgludodd,” yn ol arfer y prophwydi, y rhai yn aml a ddywedant am yr hyn a ddeuai fel pe buasai wedi cymeryd llo eisoes.
Caethgluda di am dy bechodau.
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.